Aur
| Enghraifft o: | elfen gemegol, metal metalig, Alergen, metel gwerthfawr |
|---|---|
| Math | metal nobl |
| Lliw/iau | aur |
| Màs | 196.96657 ±5e-07 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | Au |
| Clefydau i'w trin | Crydcymalau gwynegol |
| Dyddiad darganfod | c. Mileniwm 6. CC |
| Symbol | Au |
| Rhif atomig | 79 |
| Electronegatifedd | 2.54 |
| Cyflwr ocsidiad | 2.54 |
| Rhan o | Elfen cyfnod 6, Elfen Grŵp 11 |
| Dynodwyr | |
| SMILES | [au] |
| Freebase | /M/025rs2z |
| Thesawrws y BNCF | 7196 |
| CAS | 7440-57-5 |
| PubChem CID | 23985 |
| ChEBI | 30050, 29287 |
| InChI | Inchi=1s/au |
| ChemSpider | 22421 |
| UNII | 79y1949pyo |
| Rhif EC | 231-165-9 |
| Drugbank | Db14154 |
| ECHA | 100.028.332 |
| RxNorm CUI | 1311190 |
| UMLS CUI | C0018026 |
| NDF-RT | N0000022608 |
| Aur
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Symbol | Au | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Rhif | 79 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Dwysedd | 19300 kg m-3 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Metel melyn disglair meddal yw aur, elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac iddo'r symbol Au a'r rhif 79. Mae aur yn werthfawr iawn, ac yn ddefnyddiol ym meysydd deintyddiaeth, electroneg a gemwaith. Côd ISO 4217 aur yw XAU. Ychydig iawn o aur, bellach, sy'n cael ei gloddio yng Nghymru.
Aur Cymru
[golygu | golygu cod]Defnyddiodd y Celtiaid aur ar gyfer addurniadau cain iawn megis torchau aur a Chlogyn Aur yr Wyddgrug, sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng 1900-1500 CC yn ystod Oes yr Efydd. Mae'n fwy na thebyg i'r fantell gael ei siapio yng Nghymru ond i'r aur gael ei gloddio yn Iwerddon.[1]
Cloddiwyd aur yn Nolaucothi, Sir Gaerfyrddin ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid: safle sydd ar Ystâd Dolaucothi ac sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Hyd y gwyddys, dyma'r unig olion o gloddio am aur gan y Rhufeiniaid ar ynysoedd Prydain. Dolaucothi yw’r unig fwynfeydd aur yng Nghymru tu allan i ardal Dolgellau.
Ceir y ddau gloddfa yn ardal Dolgellau, Clogau (78,507 owns a gloddiwyd 1862–1911) a Gwynfynydd (40,054 owns o 1862–1916). Crefftwyd Disg Haul Banc Ty'n-ddôl o aur yng nghyfnod y Diwylliant Bicer Gloch (c. 2000 CC), sef y darn cynharaf o aur i'w ganfod yng Nghymru.[2] Ceir tystiolaeth hefyd bod tywysogion cynnar Cymru wedi gwisgo torchau aur – er nad yw'n glir, hyd yma, a oedd yr aur hynafol hwnnw yn cael ei gloddio yng Nghymru neu yn Iwerddon.
Eurych
[golygu | golygu cod]Bôn y gair eurych yw aur. Crefftwr sy'n gweithio gydag aur yw 'eurych' neu 'eurof'. Yn yr oesoedd canol roedd yn grefftwr teithiol. Wrth i gymdeithas a'r economi ddatblygu dichon bod gwaith yr eurych proffesiynol wedi ehangu a wedyn bod y werin wedi dechrau defnyddio'r gair am unrhyw weithiwr crwydrol ac daeth yn air arall am dincar. O ran y sillafiad mae 'na gryn dipyn o amrywio rhwng 'e' ac 'y' (y sain glir) yn y Gymraeg. Pan fo'r llafariad yn ddiacen y digwydd hyn e.e. mae 'edrych' yn troi'n 'edrech' a phan ogledd-orllewineiddiwyd y gair cawsom 'edrach'. Dyddia'r dystiolaeth gynharaf o neu a > e mewn sillaf ôl-acennog o'r 16g. Byddai hyn yn egluro'r ffurf safonol 'eurych' a'r ffurf lafar 'eurach'.[3] Nodir tua 40 o enwau lleoedd y Nghymru yn cyfeirio at *eurych*[1]
Diarhebion
[golygu | golygu cod]- 'Aur ar law wledig' ("ymerodr")
- 'Nid aur yw popeth melyn'
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://bylines.cymru/science-tech/nonferrous-metals-wales/ bylines.cymru; Wales is metal: a country rich in nonferrous resources; adalwyd 5 Mehefin 2024.
- ↑ "Early Bronze Age gold disc". Museum Wales. Cyrchwyd 2023-02-12.
- ↑ Guto Rhys yn Bwletin Llên Natur rhifyn 38
