Gwynfynydd

Oddi ar Wicipedia
Gwynfynydd
Mathmwynglawdd Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iDolgellau
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8371°N 3.8784°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Enw ar ardal ger Afon Mawddach, Dolgellau yw Gwynfynydd, lle cloddiwyd am aur Cymru o 1860-1998.

Rheadr yng Ngwynfynydd
Rhan o'r adfeilion y gellir eu gweld heddiw, gan gynnwys peipen i gario dŵr er mwyn golchi'r gro.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ym 1863, darganfuwyd aur yng Ngwynfynydd yn y Ganllwyd ond nu fu cloddio am hir.[1]

Yn 1887, bu William Pritchard Morgan yn cloddio yn ddirgel am aur yng Ngwynfynydd am fisoedd ac ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd darganfyddiad gywhtien newydd o aur. Roedd William yn gobeithio cadw'r darganfyddiad yn gyfrinach cyn creu sioe a chyflwyno'r bar cyntaf o aur i Frenhines Fictoria.[1]

Ar ôl cyhoeddiad y newyddion, aeth degau o rai yno i gloddio a newyddiadura a bu'n rhaid i William wneud cais i'r llysoedd lleol i gadw dau gwnstabl ar y safle. Daeth William yn fwy cyfoethog byth ac adnabyddywd fel 'Brenin Aur Cymru'.[1]

Roedd William Pritchard Morgan eisoes wedi ennill ei ffortiwn yn ystod Rhuthr Aur Awstralia ond diolch i'w ddarganfyddiad ym Meirionnydd daeth Morgan yn fwy cyfoethog fyth.[1]

O dan berchnogaeth Morgan, cyflogwyd 200 o weithwyr yng Ngwynfynydd. Roeddent yn cloddio mewn twneli cul i fewn i'r graig dan olau cannwyll.[1]

Cafodd y chwarel olaf ei gau yn 1998 wedi i'r ardal gynhyrchu dros 2000 o bwysau aur (sef 62 kg) o aur Cymru - o'i gymharu gyda 78,507 o bwysau aur (sef 2,442 kg) o Mwynfeydd aur Clogau, gerllaw. Roedd y mwynfeydd ar agor i'r cyhoedd hyd at 1998 gyda theithiau rheolaidd i ymwelwyr a chyfle i chwilio gyda'r offer cywir yn yr afon.

Oherwydd deddfau yn ymwneud â halogi'r amgylchedd, a'r ffaith na chafwyd hyd i wythïen llawn aur, aeth y gwaith yn aneconomaidd a chaewyd y lle.

Delweddau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Dolgellau: Cloddio am aur". BBC Cymru Fyw. 2023-11-02. Cyrchwyd 2023-11-07.