Mwynfeydd aur Clogau

Oddi ar Wicipedia
Mwynfeydd aur Clogau
Mathgwaith aur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7618°N 3.9647°W Edit this on Wikidata
Map

Mwynfeydd aur Clogau oedd brenin mwynfeydd aur ardal Dolgellau, Gwynedd am flynyddoedd. Mae'r ardal yn agos i bentref Bontddu, rhwng Dolgellau a'r Bermo. Yn wir, dyma ffynhonnell aur mwyaf gwledydd Prydain am gryn amser.

Efydd a phlwm oedd yn cael ei fwynglodio yma'n gyntaf, ond ar 29 Mehefin 1862 darganfuwyd aur - a chafwyd 'goldrush' a barodd hyd at 1911. Yn ystod y cyfnod hwn cloddiwyd 165,031 tunnell o fwyn-aur (gold ore); cafwyd 78,507 owns 'troy' (sef 2,442 kg) - o'i gymharu gydag ychydig dros 2,000 owns o Wynfynydd. I gario'r mwyn-aur, caed rheilffordd gyda'r rêls ddwy droedfedd oddi wrth ei gilydd.

Roedd dwy fwynglawdd fawr: Chwarel Dewi Sant a Chwarel Vigra. Caewyd yr olaf yn 1998.

Cert mwyn aur o waith aur y Clogau, Bontddu; yn cael ei ddefnyddio fel pot blodau (2018)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]