Efydd

Oddi ar Wicipedia
Efydd
Enghraifft o'r canlynoldeunydd Edit this on Wikidata
Mathcopper alloy, sculpture material Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscopr, tun Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cerflun efydd o Nataraja yn yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan, Dinas Efrog Newydd

Aloi wedi ei wneud o gopr, gyda thun fel y prif ychwanegiad arall yw efydd. Weithiau gall gynnwys elfennau cemegol eraill fel ffosfforws, manganîs, alwminiwm, neu silicon. Mae'n galed ac yn fregus, ac roedd yn hynod arwyddocaol yng nghyfnod y cynfyd, gan arwain at yr enw 'Oes yr Efydd' i ddisgrifio'r cyfnod archaeolegol sy'n dilyn Oes Newydd y Cerrig ac yn rhagflaenu Oes yr Haearn.

Mae'r gair Cymraeg efydd yn gytras â'r gair Hen Wyddeleg umae ac mae'r ddau yn deillio o'r gair Celteg tybiedig *omijom ‘metel coch’ o'r gwreiddyn *h₂eh₃-mo- ‘amrwd, coch (am groen)’.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  efydd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.