Mwynfeydd aur Dolaucothi
![]() | |
Math | gold mine, safle archaeolegol, atyniad twristaidd, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 18.92 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.042709°N 3.951051°W ![]() |
Cod OS | SN6637240172 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CM208 ![]() |
Mwynfeydd aur o’r cyfnod Rhufeinig, ac yn ôl pob tebyg cyn hynny, yn Sir Gaerfyrddin yw Mwynfeydd Aur Dolaucothi. Saif y mwynfeydd gerllaw Afon Cothi, ychydig i’r dwyrain o bentref Pumsaint, a rhwng y pentref hwnnw a phentref Caeo. Dolaucothi yw’r unig fwynfeydd aur yng Nghymru tu allan i ardal Dolgellau.
Hanes[golygu | golygu cod]


Ceir tystiolaeth archaeolegol i gloddio am aur ddechrau yma yn ystod Oes yr Efydd. Gweithiwyd y mwynfeydd ar raddfa sylweddol gan y Rhufeiniaid o tua 75 O.C. hyd tua 140. Ceir yma dystiolaeth o ddefnydd cynnar iawn o bwer dŵr i weithio morthwylion i falu’r graig a’r aur ynddi. Mae ffordd Rufeinig Sarn Helen gerllaw.
Adfywiwyd y mwynfeydd am gyfnod byr yn y 19g, ac yn y 1930au bu ymgais i ddarganfod haenau aur newydd. Caewyd y gwaith eto yn 1938. Yn 1941 daeth yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae ar agor i’r cyhoedd.
Cadwraeth[golygu | golygu cod]
Mae'r safle wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1954 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 18.92 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
Dynodwyd y safle’n un o statws arbennig ar sail daeareg yn ogystal â bod ynddo fywyd gwyllt o bwys ac o dan fygythiad. Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru
- Mwynfeydd aur Gwynfynydd
- Mwynfeydd aur Clogau
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Rhagfyr 2013