Afon Cothi
Gwedd
Y bont ar Afon Cothi ger Abergorlech | |
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Gaerfyrddin |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 11 metr |
| Cyfesurynnau | 51.8667°N 4.1833°W |
| Aber | Afon Tywi |
![]() | |
Afon yn Sir Gaerfyrddin yw Afon Cothi. O'i tharddle ym Mlaen Cothi yng ngogledd y sir, i'r gogledd o Bumsaint, mae'n llifo tua'r de-ddwyrain ac yna'n troi tua'r de-orllewin i lifo heibio Cwrt-y-cadno, Pumsaint, Abergorlech a Phont-ar-Gothi cyn ymuno ag Afon Tywi i'r gorllewin o bentref Llanarthne.
Ceir pysgota da yma am eog a brithyll y môr.
Arferid credu y cafodd y bardd canoloesol Lewys Glyn Cothi ei enw barddol am iddo fod yn frodor o lannau Cothi, ond gwyddys erbyn hyn mai frodor o ardal ym mhlwyf Llanybydder a oedd yn cynnwys fforest frenhinol Glyn Cothi oedd ef.
