Enw barddol

Oddi ar Wicipedia

Mae enw barddol yn ffugenw a ddefnyddir gan feirdd a llenorion eraill yng Nghymru, yn arbennig yn yr eisteddfod.

Roedd y gair bardd yn un o sawl enw Cymraeg Canol a ddefnyddid gan feirdd yr Oesoedd Canol, boed yn feirdd llys neu'n feirdd crwydrol (y Glêr). Roedd nifer o'r beirdd hyn yn arddel ffugenw, neu enw barddol, er enghraifft Cynddelw Brydydd Mawr (fl. 1155 - 1200) a Iolo Goch (c.1320 - c.1398).

Ymddengys fod gwreiddiau'r arfer yn hynafol iawn, fel y tyst enwau Talhaearn Tad Awen, Blwchfardd a Culfardd, beirdd o'r 6g y mae'r hanesydd Nennius yn cyfeirio atynt, ynghyd â Thaliesin ac Aneirin (Aneurin Gwenithwawd), yn ei lyfr Lladin Historia Brittonum ("Hanes y Brythoniaid").

Parhaodd y traddodiad yn y cyfnod modern cynnar.

Fodd bynnag, yn sgîl gweithgareddau rhamantaidd Edward Williams (Iolo Morganwg) a llenorion eraill ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19eg, trowyd yr enw barddol yn dipyn o gonsít ac ymarddelai rhai o feirdd mwyaf di-nod oes Victoria ffugenwau chwyddedig a hunan-bwysig, er enghraifft "Vulcan", "Cymro Gwyllt" a "Llenor y Llwyni".

Erbyn heddiw prif bwrpas yr enw barddol yw er mwyn cuddio enw iawn cystadleuwyr o bob math yn yr eisteddfod, rhag i'r beirniaid eu hadnabod.

Dosbarthiad ar enwau barddol y beirdd traddodiadol[golygu | golygu cod]

"Prydydd" a "Bardd"[golygu | golygu cod]

Galwedigaethau / galluoedd (ac eithrio barddoni)[golygu | golygu cod]

Lliw[golygu | golygu cod]

Enwau lleoedd[golygu | golygu cod]

Amryw[golygu | golygu cod]