Llywarch y Nam
Llywarch y Nam | |
---|---|
Ganwyd | 1150 Cymru |
Bu farw | 1160 |
Galwedigaeth | bardd |
Roedd Llywarch y Nam (fl. 1150 - 1160) yn fardd llys a gysylltir â theyrnas Powys. Dim ond un o'i gerddi sydd wedi goroesi.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ceir peth dryswch ynglŷn â unoliaeth y bardd. Fel yn achos Llywarch Llaety, mae'r unig gerdd o'i waith sydd gennym heddiw yn fawl i Lywelyn ap Madog, mab hynaf ac etifedd Madog ap Maredudd o Bowys, a laddwyd yn fuan ar ôl marwolaeth ei dad yn 1160. Mae'r cyd-ddigwyddiad hyn, a'r ffaith fod ei henwau mor tebyg i'w gilydd, yn codi'r bosiblrwydd fod Llywarch y Nam a Llywarch Llaety yn llysenwau ar yr un bardd, ond does dim modd profi hynny.[1]
Cerdd
[golygu | golygu cod]Cerdd i ddiolch i Lywelyn ap Madog am rodd o gŵn hela mewn cyfres o englynion yw'r unig destun a briodolir i Lywarch y Nam yn y llawysgrifau. Ceir y testun cynharaf yn Llawysgrif NLW 4973B. Mae'r gerdd yn anghyflawn gyda dim ond tri englyn.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Nerys Ann Jones (gol.), 'Gwaith Llywarch y Nam', yn Kathleen A. Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion.'
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]