Seisyll Bryffwrch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Un o Feirdd y Tywysogion a ganai yn y 12g oedd Seisyll Bryffwrch (fl. 1155 - 1175). Fe'i cofir yn bennaf am yr ymryson barddol rhyngddo â'r pencerdd enwog Cynddelw Brydydd Mawr am fod yn bencerdd yn llys Madog ap Maredudd, tywysog Powys (sylwer, fodd bynnag, fod rhai ysgolheigion yn amau dilysrwydd yr ymryson).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig iawn a wyddom am Seisyll Bryffwrch ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Mae'n perthyn i'r un cyfnod â Chynddelw Brydydd Mawr. Yn ôl nodyn yn Llawysgrif Hendregadredd, cymerodd ran mewn ymryson â Chynddelw am benceirddiaeth (safle fel pencerdd yn y llys) Madog ap Maredudd, ac felly mae'n bosibl fod ganddo gysylltiadau â Powys (fel Cynddelw yntau). Mae cerdd ymryson ddiweddarach yn honni - yn watwarus - fod tad Seisyll "yn cadw defaid rhwng Gwynedd a Dyfi", h.y. yng nghantref Meirionnydd, ac felly mae'n eithaf posibl ei fod yn frodor o'r ardal honno.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cedwir tair awdl gan Seisyll yn y llawysgrifau: cyfanswm o 115 llinell. Canodd awdl foliant i'r Arglwydd Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth, mab Rhys ap Tewdwr, ac awdlau marwnad i Owain Gwynedd (m. 1175) a Iorwerth Drwyndwn, tad Llywelyn Fawr.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Seisyll Bryffwrch', yn Kathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). Y golygiad safonol o waith Seisyll Bryffwrch, yng 'Nghyfres Beirdd y Tywysogion'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Seisyll Bryffwrch'.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch