Llywelyn Fardd I

Oddi ar Wicipedia
Llywelyn Fardd I
Ganwyd1125 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1200 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1150 Edit this on Wikidata

Un o Feirdd y Tywysogion yn y 12g oedd Llywelyn Fardd I (fl. tua 1125 - 1200). Fe'i gelwir yn Llywelyn Fardd I gan ysgolheigion er mwyn gwahaniaethu rhyngddo â bardd arall o'r un enw (Llywelyn Fardd II) a ganai yn y 13g.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ychydig iawn a wyddom am Llwyelyn Fardd ond ar sail ei farddoniaeth gellid cynnig ei fod yn blodeuo yn ail hanner y 12g (ceir cerdd ganddo i'r Abad Morfran o Dywyn a fu farw yn 1147). Ceir dwy gerdd ganddo lle mynegir ei gariad amlwg at gantref Meirionnydd ac mae hyn yn awgrymu ei fod yn frodor o'r cantref hwnnw. Mae'n bosibl mai gŵr o'r enw Cywryd oedd ei dad.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Canodd Llywelyn Fardd i dywysogion Powys a Gwynedd. Ceir pum cerdd ganddo yn y llawysgrifau. Mae 'Canu Cadfan' yn awdl grefyddol i Sant Cadfan a cheir cerdd ar 'Arwyddion Dydd Brawd' hefyd. Cedwir tair cerdd i noddwyr seciwlar, sef dadolwch i Owain Fychan (m. 1187), un o feibion Madog ap Maredudd o Bowys; marwnad Cedifor ap Genillyn, uchelwr o Feirionnydd; arwyrain i Owain Gwynedd (m. 1170), brenin Gwynedd.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd I', yn Kathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). Y golygiad safonol o waith Llywelyn Fardd, yng 'Nghyfres Beirdd y Tywysogion'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd I'.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch