Dadolwch

Oddi ar Wicipedia

Dadolwch yw'r term barddol Cymraeg Canol am gerdd sy'n erfyn am gymod rhwng y bardd a'i noddwr. Y rheswm arferol yw fod y noddwr wedi digio wrth y bardd am ryw reswm neu'i gilydd.

Cyfyngir y term bron yn gyfangwbl i waith Beirdd y Tywysogion, lle ceir chwe gyfres o englynion a dwy awdl a ddisgrifir yn y testunau fel dadolwch. Ceir ambell gerdd arall nas gelwir yn ddadolwch ond sy'n gyffelyb.

Gan amlaf, y mae'n amlwg fod y bardd wedi tramgwyddo naill ai trwy ddweud rhywbeth neu drwy fod i ffwrdd o lys y noddwr, efallai'n canu i noddwr arall. Er bod lle i gredu fod rhai o'r cerddi dadolwch yn ddiffuant, ceir awgrym hefyd fod naws ddefodol iddynt. Roedd y beirdd llys yn bobl o bwys yn y gymdeithas - rhai ohonynt yn uchelwyr neu swyddogion llys - ac nid yw'r dadolwch yn golygu fod y beirdd yn "is" na'u noddwyr fel y cyfryw. Roedd y berthynas rhwng y bardd a'i noddwr yn un gymhleth ac mae'r dadolwch yn tasgu goleuni arni. Medrai'r noddwr ymatal ei nawdd ond medrai'r bardd ei ddychanu: bygwth difrifol mewn cymdeithas arwrol.

Ymddengys fod gwreiddiau'r genre yn hen. Ceir enghraifft o gerdd ddadolwch yng ngwaith Taliesin yn y 6g (er nad yw'n cael ei galw'n ddadolwch). Yn ogystal ceir canu cyffelyb yn Iwerddon yn yr Oesoedd Canol.

Mae'r beirdd a ganodd gerddi dadolwch yn cynnwys Gwilym Rhyfel (i Ddafydd ab Owain Gwynedd), Cynddelw Brydydd Mawr (i'r Arglwydd Rhys) a Dafydd Benfras i Lywelyn Fawr).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Morfydd E. Owen, 'Noddwyr a beirdd', yn, Beirdd a Thywysogion (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996).