Gruffudd ap Gwrgenau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gruffudd ap Gwrgenau
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd 12G Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Gruffudd ap Cynan ab Owain Edit this on Wikidata

Roedd Gruffudd ap Gwrgenau (fl. tua 1175 - 1210) yn un o Feirdd y Tywysogion, a gysylltir â Gwynedd.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni wyddys llawer o gwbl am fywyd y bardd. Ceir yr unig gyfeiriad cyfoes at ŵr o'r cyfnod yn ach teulu o Frycheiniog, lle nodir fod un o'i hynafiaid, Gruffudd ap Gwrgenau, wedi ei eni tua 1170, ond gan fod y bardd yn cael ei gysylltu â Gwynedd mae'n anhebygol mai'r un un ydoedd, er bod yr enw yn un pur anghyffredin.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Dim ond dwy gerdd gan Gruffudd ap Gwrgenau sydd wedi goroesi. Mae un ohonynt yn awdl farwnad i Gruffudd ap Cynan ab Owain, arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Maredudd). Bu farw Gruffudd ap Cynan yn Abaty Aberconwy yn y flwyddyn 1200, yn ôl cofnod ym Mrut y Tywysogion. Mae'n wahanol i farwnadau arferol beirdd y cyfnod am ei fod yn pwysleisio breuder oes dyn ac yn erfyn i Dduw am faddeuant cyn symud i glodfori ei wrhydri a'i haelioni ar nodyn mwy confensiynol.[1]

Mae'r ail gerdd yn gyfres fer o englynion yn cofnodi marwolaeth pedwar neu bump o gyfeillion y bardd - yn eu plith y bardd-ryfelwr Gwilym Rhyfel - sydd ar gywair lleddf a dwys. Mae'r gerdd yn perthyn i genre o gerddi i aelodau gosgordd a gyslltir a chanu'r bardd teulu. Unwaith eto ceir pwyslais ar freuder bywyd. Mae oes dyn fel oes drych (yr un mor fregus a diflanedig):

Marw Merwydd hirlwydd, a'm hirwlych—dagrau,
Digrawn ynt a mynych;
Nid henaint gŵr a'i gwrthrych,
Nid hŷn oes dyn nog oes drych.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Morfudd E. Owen (gol.), 'Gwaith Gruffudd ap Gwrgenau', yn Kathleen A. Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion.'

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Morfudd E. Owen (gol.), 'Gwaith Gruffudd ap Gwrgenau'.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch