Einion ap Gwalchmai
Einion ap Gwalchmai | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1203 |
Roedd Einion ap Gwalchmai (fl. 1203 - 1223) yn fardd llys Cymraeg a drigai ym Môn. Mae'n perthyn i ddosbarth o feirdd llys Cymraeg a adnabyddir fel Beirdd y Tywysogion. Daeth yn gymeriad llên gwerin.[1]
Llinach
[golygu | golygu cod]Roedd Einion yn perthyn i deulu barddol nodedig, yn y drydedd genhedlaeth o linach o feirdd sy'n dechrau gyda'i daid Meilyr Brydydd, bardd llys Gruffudd ap Cynan. Ei dad oedd Gwalchmai ap Meilyr. Ei frawd oedd Meilyr ap Gwalchmai ac mae'n bosibl fod y bardd Elidir Sais naill ai'n frawd iddo neu'n ewythr iddo.[1]
Cerddi
[golygu | golygu cod]Cedwir tair awdl hir i Dduw gan Einion ynghyd â llinellau agoriadol mawl i Lywelyn Fawr.[1] Ei gerdd fwyaf nodedig efallai yw ei farwnad ddwys i Nest ferch Hywel, o Dywyn, Meirionnydd. Mae'n agor â chwech llinell telynegol iawn i fis Mai:
- Amser Mai, maith dydd, neud rhydd rhoddi,
- Neud coed nad ceithiw, ceinlliw celli.
- Neud llafar adar, neud gwâr gweilgi,
- Neud gwaeddgreg gwaneg gwynt yn edwi,
- Neud erfai ddoniau goddau gweddi,
- Neud argel dawel, nid mau dewi.[2]
Einion mewn llên gwerin
[golygu | golygu cod]Cysylltir Einion â chwedl werin a elwir "Einion ap Gwalchmai a Rhiain y Glasgoed". Yn ogystal fe'i cysylltir â "Naid Abernodwydd", ger Pentraeth ar ynys Môn; dywedir iddo neidio hanner can troedfedd dros afon Nodwydd yn Abernodwydd o flaen llygaid ei gariad er mwyn ei hennill yn wraig iddo.[3]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Testunau
- J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994).
- Erthygl
- Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Y Bala, 1979). Erthygl gan Tomos Roberts.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]