Afon Nodwydd
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.293288°N 4.202623°W |
Afon fechan yn ne-ddwyrain Ynys Môn yw afon Nodwydd. Mae'n tarddu i'r de-orllewin o bentref Pentraeth, ac wedi llifo trwy'r pentref yn cyrraedd y môr yn Nhraeth Coch. Gelwir ei haber yn Abernodwydd.
Ceir cyfeiriad at naid ryfeddol gan Einion ap Gwalchmai yn Abernodwydd yn y 12g, a elwid yn "Naid Abernodwydd". Dywedir iddo neidio hanner can troedfedd dros yr afon yn Abernodwydd o flaen llygaid ei gariad er mwyn ei hennill yn wraig iddo.