Bleddyn Fardd

Oddi ar Wicipedia
Bleddyn Fardd
Ganwyd1258 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1284 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1268 Edit this on Wikidata

Bardd Cymreig oedd Bleddyn Fardd (fl. 1268-1283), un o'r olaf o Feirdd y Tywysogion. Mae'n fardd nodweddiadol oherwydd y galargerddi a ysgrifennodd ar farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sydd wedi eu cofnodi yn Llawysgrif Hendregadredd, fel gweddill y testunau.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ni wyddys dim am fywyd y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Ymddengys mai Dafydd Benfras oedd athro barddol Bleddyn. Fel Dafydd Benfras, mae hi bron yn sicr fod Bleddyn Fardd yn bencerdd i Lywelyn ap Gruffudd; yn sicr yr oedd yn un o feirdd llys Gwynedd.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Cedwir 14 o gerddi gan Fleddyn Fardd. Ceir saith awdl a saith cadwyn englynion; cyfanswm o 458 o linellau. Canodd farwnadau i Ddafydd Benfras, Goronwy ab Ednyfed (distain Gwynedd) a'i fab Hywel ap Goronwy. Ceir yn ogystal marwnad i Gruffudd ab Iorwerth ap Maredudd o Fôn. Canodd gerdd o fawl i Rys ap Maredudd ap Rhys o Ddeheubarth.[1]

Ond fe'i cofir yn bennaf efallai am y gyfres o farwnadau nodedig i Lywelyn ap Gruffudd a'i frodyr Dafydd ac Owain Goch. Yn ogystal canodd gerdd arbennig 'Marwnad Tri Mab Gruffudd ap Llywelyn', sydd i'w dyddio i tua 1283.[1]

Ceir yn ogystal marwysgafn gan y bardd ar ei wely angau.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd', yn Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd'.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch