Marwysgafn

Oddi ar Wicipedia

Math arbennig o gerdd a geir yng nghanu Beirdd y Tywysogion yw'r farwysgafn. Ystyr y gair marwysgafn yw 'cân ar wely angau' (marw + ysgafn o'r gair Lladin scamnum sef 'mainc'). Roedd yn gerdd o gyffes gan y bardd cyn iddo farw. Ceir cerddi tebyg yn Iwerddon hefyd.

Ceir yr enghraifft gynharaf sydd ar glawr gan Meilyr Brydydd, a gyfansoddwyd rywbryd ar ôl 1137, ond mae'n amlwg fod y genre yn hŷn na hynny. Ceir enghreifftiau diweddarach gan Cynddelw Brydydd Mawr a Bleddyn Fardd yn ogystal.

Cyffesu pechodau a gofyn maddeuant yw hanfod y cerddi hyn. Mae'r beirdd yn cyfarch Duw yn yr un termau a gyda'r un ymadroddion ag y byddent yn cyfarch arglwyddi a thywysogion. Ym marwysgafn Meilyr Brydydd mae'r bardd yn cloi trwy ofyn am orffwysfa ymhlith y saint ar Ynys Enlli.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • J. E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion (Caerdydd, 1994).