Rhys ap Maredudd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Dryslwyn a Bryn Gronger

Roedd yr Arglwydd Rhys ap Maredudd (m. 1292) yn arglwydd y Dryslwyn ac Ystrad Tywi. Yn ystod rhyfel 1282-3 bu'n deyrngar i Edward I ond arweiniodd wrthryfel yn ne Cymru ar 8 Mehefin 1287 a barhaodd hyd at 20 Ionawr 1288 ond ni chafodd fawr o gefnogaeth; crogwyd ef gan y Saeson yng Nghaerefrog yn 1292 ar ôl iddo gael ei fradychu gan ei bobl ei hun.

Maredudd ap Rhys Gryg o Ddryslwyn (bu f. 1271 ), Tywysog Deheubarth oedd ei dad,[1] gŵr a fu'n gwrthwynebu Llywelyn ap Gruffudd.[2] Ei hen daid oedd Rhys ap Gruffudd (1132 – 28 Ebrill 1197) a adnabyddid hefyd fel 'yr Arglwydd Rhys'.

Wedi 1283 cydnabyddid ef fel dominus de Estretewy, a gorfodwyd y penaethiaid Cymreig yng ngogledd Sir Gaerfyrddin i dalu gwrogaeth iddo. Yn 1285 priododd Ada de Hastings, a daeth castell Castell Newydd Emlyn yn rhan o'i diriogaeth, fel gwaddol.

Gwrthryfelodd yn erbyn Edward ar 8 Mehefin 1287 pan oresgynnodd Iscennen ac anrheithiodd lawer o diroedd yng ngorllewin Cymru cyn belled â Llanbadarn. Danfonodd Edward I, brenin Lloegr y rhaglyw, iarll Cernyw, i'w atal ac ymosododd yntau a milwyr y brenin ar y Dryslwyn, o wahanol gyfeiriadau, ar 5 Medi. Ni ddaliwyd Rhys, fodd bynnag, a pharhaodd y gwrthryfel nes y syrthiodd Castell Newydd Emlyn hefyd ar 20 Ionawr 1288. Cofnodir gwrit ynglŷn â'i achos iddo geisio dianc i'r Iwerddon, ond nid yw hynny'n sicr. Bradychwyd ef gan ei filwyr ei hun a daliwyd ef yng nghoedwigoedd cwmwd Mallaen yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yn 1291.[3] Dienyddiwyd ef yng Nghaerefrog.

Dair mlynedd yn ddiweddarach cododd Madog ap Llywelyn gan arwain gwrthryfel 1294–95 a oedd yn cynnwys Brwydr Maes Maidog.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Bywgraffiadur Cymreig ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.
  2. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; tud. 823.
  3. Brut y Tywysogion yn llsgr. Pen. 20