Llywelyn ap Gruffudd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a Llywelyn (gwahaniaethu).
Llywelyn ap Gruffudd
Tywysog Cymru
Llywelyn the Last at Cardiff City Hall.jpg
Llywelyn ap Gruffudd; cerflun gan Henry Pegram, 1913
Tywysog Cymru
Reign 1246–1282
Rhagflaenydd Dafydd ap Llywelyn
Olynydd Dafydd ap Gruffudd
Ganwyd c. 1223/5
Bu farw 11 Rhagfyr 1282
Cilmeri, Aberedw, Powys
Claddwyd Ei gorff: Abaty Cwm-hir
Ei ben: Tŵr Llundain
Tywysoges Eleanor de Montfort
Plant Y Dywysoges Gwenllian
Enw llawn
Llywelyn ap Gruffudd
Hanesyddol: Llywelyn Ein Llyw Olaf
Llinach Aberffraw a Theyrnas Gwynedd
Tad Gruffudd ap Llywelyn Fawr
Mam Senana ferch Caradog

Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) (tua 122511 Rhagfyr 1282), oedd Tywysog Cymru a Gwynedd cyn i Gymru gael ei goresgyn gan Edward I, Brenin Lloegr. Roedd yn ail fab i Ruffudd ap Llywelyn ac yn ŵyr i Lywelyn Fawr, Tywysog Cymru. Ymddengys ei enw am y tro cyntaf, mewn cofnodion, yn 1243.[1] Mae'r 11 o Ragfyr yn cael ei ystyried gan lawer fel Gŵyl i'w gofio.

Ar farwolaeth ei ewyrth Dafydd ap Llywelyn yn 1246, ef oedd yr olynydd amlwg ond yn ôl Cytundeb Woodstock yn 1247 rhannwyd Gwynedd rhwng y tri brawd: Llywelyn, Owain (ei frawd hŷn) a Dafydd. Yn 1255 gorchfygodd Llywelyn ei ddau frawd a sefydlodd ei hun yn unig reolwr Gwynedd Uwch Conwy.[1] Y flwyddyn wedyn roedd y Berfeddwlad o dan ei arweiniaeth ac o fewn dwy flynedd roedd y rhan fwyaf o'r Gymru frodorol (Pura Wallia) yn ei feddiant.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Carreg goffa Llywelyn yng Nghilmeri

Sylweddolodd Llywelyn mai'r unig obaith i Gymru oedd iddo ef fod yn Dywysog Cymru cydnabyddiedig, a chasglodd ynghyd fyddin gref. Roedd rhaid i bethau ddod i ben ac fe gafwyd brwydr hir a ffyrnig rhwng Llywelyn ag Owain, Dafydd a Rhodri ei frodyr. Llywelyn fu'n fuddugol ym Mrwydr Bryn Derwin.

Aeth Llywelyn o nerth i nerth ar ôl Brwydr Bryn Dewin. Enillodd yn ôl y Berfeddwlad, a meddiannu Ceredigion ac yna aeth yn ei flaen i Ddyffryn Tywi ac enillodd dir y Normaniaid hyd at Sir Benfro. Yn ffodus i Lywelyn roedd y barwniaid wedi codi yn erbyn y brenin Harri III o Loegr. Erbyn 1263 daeth yn ryfel cartref dan arweiniad Simon de Montfort. Pan ddaeth y gwrthryfel i ben sylweddolodd Llywelyn y gallai brenin Lloegr fod yn fygythiad eto ac felly arwyddodd Cytundeb Trefaldwyn.

Fe wnaeth brenin Lloegr gydnabod Cymry am y tro cyntaf a'r tro olaf yn Dywysog Cymru yn y cytundeb hwn (yn ddiweddarach cafodd Owain Glyndŵr ei gydnabod gan Ffrainc ond nid gan Loegr). Cafodd Llywelyn hefyd gadw'r tiroedd yr oedd wedi eu hennill, ac fe wnaeth y brenin ganiatáu priodas rhwng Llywelyn ac Eleanor de Montfort er ei bod hi a'i theulu yn Ffrainc ar y pryd, mewn alltudiaeth. Cytunodd Llywelyn i dalu gwrogaeth a'i deyrngarwch i'r brenin.

Yn 1272 bu farw Harri III. Cododd Llywelyn Gastell Dolforwyn ger Trefaldwyn. Ar ôl i Edward I gael ei goroni yn frenin Lloegr gwysiodd Llywelyn i dalu teyrngarwch iddo ond gwrthododd Llywelyn sawl gwaith am, meddai ef, fod ei frawd Dafydd a Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys yn cael lloches gan Edward ac y byddai'r daith yn beryglus iddo oherwydd hynny. Daeth cyfle i'r brenin ddial yn fuan iawn. Roedd darpar wraig Llywelyn, Eleanor de Montfort yn hwylio i Gymru er mwyn priodi, ond fe ymosododd morladron yn nhâl Edward arnynt gan gymryd hi a'i brawd yn garcharorion.

Arweiniodd yr holl ddrwgdeimlad at ryfel ym 1276 ac erbyn gaeaf 1276 dim ond Gwynedd oedd yn eiddo iddo fe. Ildiodd Llywelyn a bu raid iddo dderbyn telerau Cytundeb Aberconwy 1277.

Blwyddyn ar ôl Cytundeb Aberconwy fe gytunodd Edward I i Lywelyn briodi Eleanor yn 1279 a bu heddwch rhyngddynt am gyfnod. Ond pan ymosododd Dafydd ap Gruffudd, brawd ifanca Llywelyn ar y Saeson, bu raid i Lywelyn gefnogi'r ymosodiad, gan fod y Cymry yn anesmwytho yn arbennig lle oedd Edward wedi penodi Saeson i fod mewn grym.

Cafwyd buddugoliaeth ger Afon Menai ac hefyd cafodd y Cymry lwyddiant yng Ngheredigion a Dyffryn Tywi. Mentrodd Llywelyn ddod o'i loches yn Eryri a mynd i'r Canolbarth. Yno cafodd Llywelyn ei ladd mewn sgarmes annisgwyl yng Nghilmeri / Pont Irfon ger Llanfair ym Muallt. Torrwyd ei ben er mwyn ei arddangos yn Llundain; claddwyd ei gorff yn Abaty Cwm-hir. <clirio>

Arfbais Llywelyn
Arfbais rhyfel Llywelyn

Llinach[golygu | golygu cod y dudalen]

 
 
 
 
 
 
 
 
Llywelyn Fawr
1173-1240
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd ap Llywelyn Fawr
1200-1244
 
Dafydd ap Llywelyn
1215-1246
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Goch ap Gruffydd
d. 1282
 
Llywelyn ap Gruffudd
(Llywelyn yr Ail)
1223-1282
 
 
 
Dafydd ap Gruffydd
1238-1283
 
 
 
 
 
 
 
Rhodri ap Gruffudd
1230-1315
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Y Dywysoges Gwenllian
1282-1337
 
Llywelyn ap Dafydd
1267-1287
 
Owain ap Dafydd
1265-1325
 
Gwladys
(m. 1336 yn Sixhills)
 
Tomas ap Rhodri
1300-1363
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Lawgoch
1330-1378

Ar ôl ei farwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofeb i Llywelyn yn Abaty Cwm Hir

Ar ôl marwolaeth Llywelyn bu ei frawd Dafydd yn rheoli Gwynedd am gyfnod byr cyn iddo gael ei ddal a'i ddienyddio, ond gellid dadlau does erioed arweinydd cyn gryfed â Llywelyn wedi bod ar Gymru ac eithrio Owain Glyndŵr efallai. Daeth cyfnod y tywysogion Cymreig annibynnol i ben gyda marwolaeth Llywelyn a'i frawd.

Bu Gwenllian, merch Llywelyn, farw yn 1337, ar ôl cael ei charcharu gan y Saeson am weddill ei hoes mewn lleiandy yn Sempringham er mwyn ceisio sicrhau difodiant Llinach Gwynedd.

Does neb yn gwybod i sicrwydd lle cafodd corff Llywelyn ei gladdu ar ôl i'r Saeson dorri ei ben a'i ddwyn i Lundain. Yn ôl traddodiad, dugpwyd ei gorff i'r abaty Sistersaidd yn Abaty Cwm Hir, lle cafodd ei gladdu'n ddirgel ond anrhydeddus. Yn ddiweddar awgrymwyd mai yn Neuadd Llanrhymni yng Nghaerdydd y'i claddwyd,[2] ond mae hynny yn groes i bob traddodiad ac yn anhebygol iawn dan yr amgylchiadau, am sawl rheswm (porthladd bychan ym Morgannwg oedd Caerdydd, a byddai ei gyrraedd dan drwyn y gelyn yn siwrnai hir a pheryglus o gyffiniau Buellt).

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Heddiw coffeir marwolaeth Llywelyn ar safle ei gwymp yng Nghilmeri gan wladgarwyr ar Ddiwrnod Llywelyn Ein Llyw Olaf (11 Rhagfyr) bob blwyddyn. Er gwaethaf pwysau ar y Post Brenhinol yn 1982 i ryddhau stamp arbennig ar gyfer yr achlysur, ni chafwyd stamp i nodi 700 mlwyddiant ei farw, ond cyhoeddwyd stamp answyddogol.

Dyfernir Gwobr Goffa'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd gan Brifysgol Cymru i'r traethawd gorau ar gyfer gradd MPhil neu PhD.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Gwyddoniadur Cymru; gol: John Davies; Gwasg Prifysgol Cymru 2008; tud. 582.
  2. Williams, Tryst. "Last true Welsh prince buried under pub?", Western Mail, Awst 8 2005. Casglwyd ar 18 Medi 2007.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • A. D. Carr, Llywelyn ap Gruffudd (Caerdydd, 1982)
  • J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). ISBN 0-7083-0884-8
Llywelyn ap Gruffudd
Ganwyd: 1223 Bu farw: 11 Rhagfyr 1282
Rhagflaenydd:
-
Tywysog Cymru
12671282
Olynydd:
Edward o Gaernarfon
Rhagflaenydd:
Dafydd ap Llywelyn
Tywysog Gwynedd
1246-1282
Olynydd:
Diddymwyd
Rhagflaenydd:
Dafydd ap Llywelyn
Tywysog Gwynedd mewn enw
Olynydd:
Dafydd ap Gruffudd