Cytundeb Trefaldwyn

Oddi ar Wicipedia
Cytundeb Trefaldwyn
Rhyd Chwima, lle arwyddwyd y cytundeb
Enghraifft o'r canlynolcytundeb heddwch Edit this on Wikidata
Dyddiad29 Medi 1267 Edit this on Wikidata
Rhan oYmosodiad y Normaniaid ar Gymru Edit this on Wikidata
LleoliadTrefaldwyn Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Oes y Tywysogion

Braslun o Gymru, 1063-1282

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Cytundeb hanesyddol a phwysig a arwyddwyd pan gyfarfu'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a Harri III o Loegr ar 29 Medi 1267 yw Cytundeb Trefaldwyn. Yn y cytundeb roedd Brenin Harri III o Loegr (a deyrnasodd rhwng 1216 a 1272) yn cydnabod safle Llywelyn fel Tywysog Cymru, gyda'r hawl i wrogaeth oddi wrth bob tywysog ac arglwydd Cymreig. Gwnaed hynny ym mhresenoldeb Ottobuono, llysgennad y Pab.[1] Llofnodwyd y cytundeb "wrth y rhyd" sef 'Rhyd Chwima', ar Afon Hafren ger Aberriw, tua dwy filltir a hanner i'r gogledd-orllewin o Drefaldwyn, Powys. Ni chafodd Llywelyn wrogaeth Maredudd ap Rhys o'r Dryslwyn tan 1270.[2]

Roedd Cytundeb Trefaldwyn yn crisialu'r hyn roedd Llywelyn wedi bod yn ymdrechu i’w sefydlu yng Nghymru, sef gweledigaeth o Gymru a oedd yn cael ei rheoli gan deyrnas ganolog yng Ngwynedd.[3] Roedd Llywelyn wedi cyflawni rhywbeth na chyflawnwyd gan ei dad-cu, Llywelyn ap Iorwerth, yn 1216, ac roedd sicrhau gwrogaeth oddi wrth reolwyr brodorol yn gysyniad a oedd yn elfen bwysig o system ffiwdal y cyfnod, fel y defnyddiwyd yn Lloegr. Roedd gwrogaeth yn hanfodol i reolwr wrth sefydlu ac atgyfnerthu ei statws a’i bŵer ymhlith ei bobl.

Dyma’r tro cyntaf i hawliau Tywysog Cymru gael eu cydnabod gan Frenin Lloegr. Fel rheolwr Gwynedd a chydag awdurdod teitl Tywysog Cymru, byddai tywysogion ac arglwyddi brodorol eraill Cymru yn talu gwrogaeth i Lywelyn, ac ef yn unig fyddai'n talu gwrogaeth i Frenin Lloegr. Golygai hyn eu bod yn dal eu tiroedd drwy gyflawni dyletswyddau i Lywelyn - er enghraifft, gwasanaeth milwrol a mynychu ei lys. Roedd cyfrifoldebau ynghlwm wrth y wrogaeth i Llywelyn, a gallent golli’r tiroedd os oeddent yn anheyrngar iddo.[3][4]

Y blynyddoedd blaenorol[golygu | golygu cod]

Cymru ar ôl Cytundeb Trefaldwyn yn 1267      Gwynedd, Teyrnas Llywelyn ap Gruffudd      Tiriogaethau a orchfygwyd gan Llywelyn      Tiriogaethau deiliaid Llywelyn      Arglwyddiaethau Arglwyddi’r Mers      Arglwyddiaethau Brenin Lloegr

Yn ystod y 1250au roedd Llywelyn ap Gruffudd, sef ŵyr Llywelyn Fawr, wedi amlygu ei hun fel arweinydd a oedd yn fodlon herio awdurdod Brenin Lloegr. Rhwng 1255 a 1256 ymsefydlodd fel rheolwr Gwynedd Uwch Conwy (sef y tir i’r gorllewin o’r afon Conwy) ac ychwanegodd y Berfeddwlad at ei deyrnas. Rhwng 1256 a 1258 ychwanegodd Feirionnydd, Ceredigion, Ystrad Tywi, Gwrtheyrnion a Buellt, ac yn 1258 roedd yn galw ei hun yn ‘Dywysog Cymru’ ac wedi llwyddo sicrhau cydnabyddiaeth oddi wrth deyrnasoedd Powys, Morgannwg a'r Deheubarth ei fod yn arglwydd ac yn arweinydd arnynt. Datgelwyd ei amcanion gwleidyddol i ddatblygu Cymru i fod yn uned wleidyddol newydd mewn llythyr a ysgrifennodd at reolwyr yr Alban, lle cyfeiriodd at ei hun fel ‘Tywysog Cymru’.[5] Roedd Llywelyn wedi llwyddo i gyrraedd y sefyllfa hon oherwydd nifer o ffactorau, fel gwrthwynebiad Arglwyddi’r Mers i ddylanwad coron Lloegr, ac roedd Llywelyn ei hun wedi cael gwared ar y gystadleuaeth a wynebai oddi mewn i'w deulu ei hun drwy garcharu ei frodyr.[6][7]

Yn y blynyddoedd dilynol manteisiodd Llywelyn ar broblemau mewnol a wynebodd Harri III oddi wrth ei farwniaid er mwyn ehangu ei diriogaethau ei hun. Ar ddechrau’r 1260au ymosododd ei luoedd ar Faelienydd, Brycheiniog a’r Fenni, ac er na enillodd y tiroedd hyn cydnabuwyd arglwyddiaeth Llywelyn ynddynt. Erbyn 1264 roedd Gruffudd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Powys Wenwynwyn, yn talu gwrogaeth i Lywelyn, ac yn 1265 lluniwyd Cytundeb Pipton rhyngddo ef a Simon de Montfort, sef un o farwniaid mwyaf pwerus Lloegr ac un o elynion pennaf Harri III. Roedd de Montfort, a oedd hefyd yn dad-yng-nghyfraith Llywelyn, yn cydnabod Llywelyn ap Gruffudd fel Tywysog Cymru ac arglwydd y Marchia Wallie.[5]

Lladdwyd de Montfort rai wythnosau wedyn ym Mrwydr Evesham, ond roedd y cytundeb rhyngddo ef a Llywelyn yn Pipton wedi gosod y seiliau ar gyfer Cytundeb Trefaldwyn yn 1267.[7]

Telerau’r Cytundeb[golygu | golygu cod]

Roedd y cytundeb hefyd yn datgan y byddai olynwyr Llywelyn yn cael eu cydnabod yn dywysogion Cymru ar ei ôl. Roedd y cytundeb hwn felly'n cydnabod tywysogaeth Cymru yn endid annibynnol a chyfansoddiadol, yr hyn a elwir heddiw'n 'wladwriaeth sofran'.

Roedd Harri III drwy Gytundeb Trefaldwyn yn cydnabod bodolaeth Tywysogaeth Cymru o dan arweinyddiaeth ei harglwydd, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Dywedai’r cytundeb bod disgwyl i bob arglwydd Cymreig, heblaw'r Arglwydd Maredudd ap Rhys o Ddryslwyn, dalu gwrogaeth i Lywelyn a bod ganddo’r hawl i feddiannu rhai o Arglwyddi’r Mers ym Mhowys. Roedd Llywelyn, er hynny, yn parhau i fod yn ddeiliad i Frenin Lloegr ac roedd disgwyl iddo dalu gwrogaeth i Frenin Lloegr am yr hawl hon a’r tir a gydnabuwyd iddo. Roedd cost ariannol i’r hawliau a roddwyd iddo gan Frenin Lloegr.[2] Roedd yn rhaid i Lywelyn dalu 25,000 marc (£16,666) mewn deg taliad blynyddol. Datganwyd hefyd y byddai disgwyl i Lywelyn a'i frawd Dafydd ap Gruffudd gymodi ac y byddai’n cael ei dderbyn yn ôl i gymdeithas Cymru wedi iddo ffoi i Loegr ar ddechrau’r 1260au. Rhoddodd dir i Dafydd ac ildiodd diroedd roedd wedi eu goresgyn yn siroedd Amwythig a Chaer.

Fel rhan o delerau Cytundeb 1267 trosglwyddwyd Buellt, Aberhonddu a Gwerthrynion yng nghanolbarth Cymru i Lywelyn. Rhoddwyd iddo hefyd Gastell Whittington yn swydd Amwythig, castell a oedd wedi bod ym meddiant ei dad-cu yn y 1220au, a chafodd addewidion gan Robert o’r Wyddgrug na fyddai castell yn cael ei adeiladu ym Mhenarlâg am 60 mlynedd. Roedd hyn yn gwarantu diogelwch ffin gogledd-ddwyrain Cymru.[2]

Mae'r cytundeb yn arwyddocaol iawn gan mai dyma'r tro cyntaf i berthynas coron Lloegr a thywysogaeth Cymru fod yn sefydlog, o ran y ddwy ochr. Llwyddodd Llywelyn i gael y cytundeb hwn yn dilyn methiant ei ragflaenydd, Llywelyn ap Iorwerth. Roedd Llywelyn Fawr, tadcu Llywelyn ap Gruffudd, wedi hawlio mai ef oedd Tywysog Cymru drwy ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Aberffraw, Arglwydd Eryri’ yn ystod y 1230au wedi iddo ddarostwng y breninllinau Cymreig eraill. Ond roedd goruchafiaeth Llywelyn ap Gruffudd ar ddiwedd y 1260au wedi gorfodi coron Lloegr i gydnabod ei awdurdod yng Nghymru. Roedd hyn ar adeg pan oedd Lloegr yn cael ei gwanhau oherwydd rhaniadau mewnol.[3]

Marwolaeth[dolen marw] Llywelyn

Yng Nghytundeb Trefaldwyn roedd Llywelyn wedi cyflawni cam pwysig yn y broses o greu Cymru'n wladwriaeth, a oedd yn nodwedd bwysig ar gyfer creu ymdeimlad o hunaniaeth. Oherwydd hynny, roedd Llywelyn ap Gruffudd yn un o wladweinwyr mawr hanes Cymru yn ôl Gwynfor Evans .[7]

Ar ôl 1267[golygu | golygu cod]

Roedd Cytundeb Trefaldwyn yn gydnabyddiaeth gan Frenin Lloegr o bŵer ac awdurdod Tywysog Cymru. Ond, wedi i fab Harri III ddod i orsedd Lloegr yn 1272, sef Edward I, gwaethygodd y berthynas rhwng Cymru a Lloegr.

Ymhlyg yng Nghytundeb Trefaldwyn roedd problemau dybryd i Llywelyn. Wynebai wrthwynebiad oddi mewn i Wynedd fel ail fab i fab anghyfreithlon Llywelyn ab Iorwerth,[8] gelyniaeth arglwyddi Normanaidd i’w awdurdod ac agwedd llywodraeth Brenin Lloegr, Edward I, tuag at ei statws ac annibyniaeth Cymru. Roedd Edward I yn frenin a oedd eisiau ymestyn ei ymerodraeth ac a oedd yn benderfynol o chwalu awdurdod Llywelyn. Roedd 1271 yn benllanw pŵer Llywelyn ap Gruffudd yng Nghymru, gyda thua 200,000 o ddeiliaid a thri chwarter o dir Cymru dan ei arglwyddiaeth.[9] Nid oedd hyn wrth fodd y Brenin Edward. Cynyddodd y tensiwn rhyngddynt wedi i Edward gipio gwraig Llywelyn, Eleanor de Montfort, wrth iddi hwylio'n ôl o Ffrainc. Rhwng 1274 a 1276 gwrthododd Llywelyn bum gwŷs iddo dalu gwrogaeth i Edward, ac roedd yn absennol o goroniad Edward I yn 1274. Cyhoeddodd Edward ryfel yn erbyn Llywelyn yn 1276, ac roedd telerau Cytundeb Aberconwy yn 1277 yn gosod cyfyngiadau mawr ar bŵer Llywelyn, a chollodd lawer o’r manteision a gafodd yng Nghytundeb Trefaldwyn. Yn Rhagfyr 1282, gorymdeithiodd byddin o Gastell Trefaldwyn i Lanfair-ym-Muallt gyda’r bwriad o lofruddio Llywelyn. Lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd, neu ‘Llywelyn Ein Llyw Olaf’, ger afon Irfon yng Nghilmeri, ger Llanfair-ym-Muallt, ar 11 Rhagfyr 1282 gan Stephen de Frankton, un o filwyr byddin Edward I. Yn ddiweddarach, trowyd Castell Trefaldwyn yn garchar.[4][10][11]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiradau[golygu | golygu cod]

  1. J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tt. 153-6.
  2. 2.0 2.1 2.2 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 142. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  3. 3.0 3.1 3.2 Carpenter, David. Confederation not Domination - Welsh political culture in the age of Gwynedd Imperialism (PDF). t. 20.
  4. 4.0 4.1 "Oes y Tywysogion | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  5. 5.0 5.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 140. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  6. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 139. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  7. 7.0 7.1 7.2 Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 93–101. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  8. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 143. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  9. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 144. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  10. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 154. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  11. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. "Braslun o Gymru, 1063 - 1282". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-09-28.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Gwyddoniadur Cymru, tud. 246