Powys Wenwynwyn

Oddi ar Wicipedia
Powys Wenwynwyn
Enghraifft o'r canlynolgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Daeth i ben1283 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1160 Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddTeyrnas Powys Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Arfbais Powys Wenwynwyn a Theyrnas Powys.

Roedd Powys Wenwynwyn yn dywysogaeth Gymreig a fodolai yn ei therfynau o ail hanner y 12g hyd chwarter cyntaf y 13g. Er byrred ei pharhad, chwaraeai ran bwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol.

Yn 1160, ar farwolaeth Madog ap Maredudd, rhannwyd hen deyrnas Powys yn ddwy ran. Etifeddodd un o feibion Madog, Owain Cyfeiliog ran ddeheuol y deyrnas. Cantref Cyfeiliog oedd canolfan ei rym. Ar ei farwolaeth ef pasiodd y dywysogaeth i ddwylo ei fab Gwenwynwyn ab Owain (11951216), a daethpwyd i adnabod y deyrnas fel Powys Wenwynwyn mewn cyferbyniaeth â'r rhan ogleddol, Powys Fadog.

Mathrafal, hen lys brenhinoedd Powys yng nghantref Caereinion, oedd canolfan y dywysogaeth, ond yn ddiweddarach symudwyd y llys i'r Trallwng pan ochrodd Gwenwynwyn â brenin Lloegr. Dilynwyd Gwenwynwyn gan ei fab Gruffudd ap Gwenwynwyn, ond bregus fu ei afael ac am y rhan fwyaf o'r amser bu Powys Wenwynwyn ym meddiant tywysogion Gwynedd. Gyda chwymp Gwynedd yn 1283 nid adferwyd Powys Wenwynwyn, a chael ei hymrannu'n fân arglwyddiaethau neu ddod i feddiant Coron Lloegr fu ei thynged.

Baner Powys Wenwynwyn

Tywysogion[golygu | golygu cod]

Map sy'n dangos ymraniad teyrnas Powys yn 1160 (diweddarach yw'r siroedd)

Cantrefi a chymydau[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.