Abaty Ystrad Marchell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Abaty yn perthyn i Urdd y Sistersiaid yng nghwmwd Ystrad Marchell ym Mhowys oedd Abaty Ystrad Marchell (Lladin: Strata Marcella). Saif ar lan orllewinol Afon Hafren, tua 4 km i’r de-ddwyrain o’r Trallwng. Ar un adeg, Ystrad Marchell oedd yr abaty Sistersaidd mwyaf yng Nghymru. Roedd eglwys y fynachdy yn 273 troedfedd o hyd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd Ystrad Marchell yn 1170 gan Owain Cyfeiliog o Bowys, pan wahoddodd fynachod o Abaty Hendy-gwyn i ddechrau abaty newydd. Ymddengys mai ar safle arall yr oedd yr abaty gwreiddiol, ac iddo symud i'r safle bresennol yn 1172. Yn ddiweddarach, ymddeolodd Owain i’r abaty, a chladdwyd ef yma ar ei farwolaeth yn 1197. Noddwyd yr abaty gan dywysogion diweddarach Powys, yn enwedig Gwenwynwyn ab Owain; mae hefyd siarter gan Llywelyn Fawr.

Yn ôl Gerallt Gymro, sy'n cyfeirio at yr hanes yn ei lyfr enwog Hanes y Daith Trwy Gymru (taith a wnaeth yn 1188), dihangodd Enoch, abad Ystrad Marchell, gyda lleian o Leiandy Llansantffraed-yn-Elfael, oedd dan awdurdod Ystrad Marchell. Rhedodd y ddau i ffwrdd ond dychwelodd Enoc i'r abaty yn ddiweddarach ac edifeiriodd am ei weithred. Ond mewn testun arall gan Gerallt, y Gemma Ecclesiastica, abad o abaty Hendy-gwyn ar Daf oedd Enoc, a arosodd yn y lleiandy a llwyddo i gael sawl un o'r lleianod yn feichiog cyn rhedeg i ffwrdd gyda'i gariad.

Sefydlwyd Abaty Glyn y Groes gan fynachod o Ystrad Marchell yn 1201. Cefnogodd mynachod Ystrad Marchell Llywelyn ap Gruffudd yn ei ymdrechion yn erbyn Edward I, brenin Lloegr, a dioddefodd ddifrod oherwydd hynny. Yn 1330 gyrrodd Edward III y mynachod Cymreig i dai yn Lloegr, gan ddod â mynachod o Saeson i Ystrad Marchell yn eu lle a rhoi’r tŷ dan awdurdod Abaty Buildwas yn Swydd Amwythig. Roedd hyn ar gais John de Cherleton, Arglwydd Powys, fu'n cwyno am y mynachod Cymreig ac yn dweud nad oedd yn awr ond wyth mynach, lle bu 60 gynt. Yn ail hanner y 15g roedd Dafydd ab Owain yn abad.

Difrodwyd yr adeiladau yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr. Pan gaewyd y mynachlogydd yn 1536, roedd incwm blynyddol, yr abaty yn £64 a dim ond pedwar mynach yma. Cyrhaeddodd y copmisiynwyr i Ystrad Marchell i ddarganfod fod y mynachod wedi gwerthu’r adeiladau i Arglwydd Powys y flwyddyn cynt, a phopeth o werth wedi diflannu. Ychydig sydd i’w weld ar y safle bellach.

Ceir llawer o gyfeiriadau at Ystrad Marchell yng ngwaith y beirdd. Efallai mai yma y diweddodd Cynddelw Brydydd Mawr ei oes, ac mae un o gywyddau enwocaf Guto'r Glyn, sef ei farwnad gofiadwy i'w gyd-fardd Llywelyn ab y Moel, yn dechrau "Mae arch yn Ystrad Marchell". Bu farw Llywelyn yn yr abaty ym mis Chwefror 1440, a gweinyddwyd y sagrafen olaf iddo gan y Tad Griffri (yr abad ar y pryd neu un o'r mynachod).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog' a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998), tud. 81.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]