Cedewain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Map braslun o gantrefi Powys

Cantref yn ne Teyrnas Powys (gogledd Powys heddiw) oedd Cedewain (ffurf amgen: Cydewain). Pan ymranodd teyrnas Powys yn ddwy ran ar ddiwedd y 12g daeth yn rhan o dywysogaeth byrhoedlog Powys Wenwynwyn.

Gorwedd y cantref rhwng Ceri i'r de (Rhwng Gwy a Hafren), Arwystli (cwmwd Is Coed) i'r de-ddwyrain, a chantref Caereinion a rhannau o gymydau Llannerch Hudol a Gorddwr i'r gogledd. Yn y dwyrain roedd rhan o'r cantref yn ffinio â Swydd Amwythig dros y ffin yn Lloegr.

Roedd gan y cantref ganolfan eglwysig bwysig yn Aberriw. Ei brif ganolfan weinyddol yn y 13g oedd Dolforwyn, lle cododd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, Gastell Dolforwyn ym 1273. Tyfodd tref fechan wrth droed y castell.

Bu'r cantref yn bwysig i dywysogion Gwynedd yn eu hymdrechion i ymestyn eu hawdurdod dros y rhan honno o Gymru. Roedd Castell Dolforwyn yn enwedig yn her sylweddol i rym arglwyddi'r Mers, yn sefyll gyferbyn i'r Drenewydd.

Yn 1279, rhoddodd Edward I o Loegr y cwmwd, gyda chwmwd Ceri, i Roger Mortimer, ac arosodd yn nwylo'r Mortimeriaid ar ôl hynny fel un o arglwyddiaethau'r Mers hyd y Deddfau Uno.

Cedwir enw'r hen gantref yn enw pentref Betws Cedewain, i'r gogledd o'r Drenewydd.