Ceri (cwmwd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Map braslun o gantrefi Powys

Cwmwd oedd yn rhan o Rhwng Gwy a Hafren oedd Ceri. Canolfan weinyddol y cwmwd oedd Llanfihangel yng Ngheri, pentref Ceri ym Mhowys yn awr. Gerllaw pentref Ceri mae gweddillion castell mwnt a beili, a adeiladwyd tua 1130 ac a oedd yn brif ganolfan y cwmwd. Mae ffiniau cymuned Ceri yn cyfateb yn fras i ffiniau'r cwmwd. Ceir cyfeiriad at Ceri ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogion, chwedl Math fab Mathonwy, lle mae Gwydion wedi dwyn moch Pryderi yn aros dros nos rhwng Ceri ac Arwystli.

Yn 1228 bu ymladd yma rhwng Llywelyn Fawr a Hubert de Burgh, oedd yn un o farwniaid mwyaf nerthol Lloegr ym Mrwydr Ceri. Roedd Hubert wedi derbyn Arglwyddiaeth Trefaldwyn ac wedi dechrau meddiannu rhai o diroedd Llywelyn yng Ngheri. Daeth y brenin a byddin i gynorthwyo Hubert, a ddechreuodd adeiladu castell o fewn cwmwd Ceri. Llwyddodd Llywelyn i orfodi'r fyddin Seisnig i encilio, a chytunodd y brenin i ddinistrio'r castell yn gyfnewid am daliad o £2,000 gan Llywelyn. Cododd Llywelyn yr arian trwy ofyn am yr un swm fel pris rhyddid Gwilym Brewys, oedd wedi ei gymeryd yn garcharor yn yr ymladd.

Bu Ceri yn allweddol yn ymgyrch Llywelyn ap Gruffudd i sefydlu ei awdurdod yng nghyffiniau'r Mers.

Yn 1279, rhoddodd Edward I o Loegr y cwmwd, gyda chwmwd Cedewain, i Roger Mortimer, ac arosodd yn nwylo'r Mortimeriaid ar ôl hynny fel un o arglwyddiaethau'r Mers hyd y Deddfau Uno.

Cysylltir y bardd Siôn Ceri (bl. diwedd y 15g - tua'r 1540au) â'r cwmwd. Roedd yn ddisgybl barddol i Dudur Aled.