Gorddwr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gorddwr
Math Cwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.695°N 3.067°W Edit this on Wikidata

Cwmwd yn Nheyrnas Powys oedd Cwmwd Gorddwr. Gorweddai yn ne-ddwyrain y deyrnas (gogledd Powys heddiw) yn union ar y ffin â Lloegr. Pan ymrannwyd teyrnas Powys ddiwedd y 12g, daeth yn rhan o dywysogaeth Powys Wenwynwyn.

Gorweddai'r cwmwd ar y ffin rhwng teyrnas Powys a Swydd Amwythig yn Lloegr i'r dwyrain. Yng Nghymru, ffiniai â chymydau Deuddwr, Ystrad Marchell a'r Llannerch Hudol i'r gorllewin a rhan o gantref Cedewain i'r de. Cawsai ei enwi yn gwmwd Gorddwr am ei fod yn gorwedd i'r dwyrain o afon Hafren (gor yn yr ystyr "dros").

Rhimyn o gwmwd ydoedd, yn rhedeg o'r de i'r gogledd, gyda bryn Cefn Digoll (Long Mountain) yn dominyddu ei dirwedd. Roedd ei trefi bychain canoloesol yn cynnwys Treberfedd, Trewern a Trelystan.

Chwareodd ei ran yn hanes Harri Tudur. Glaniodd Harri yn Sir Benfro ar 7 Awst 1485 gyda byddin fechan o Lancastriaid alltud a Ffrancod, efallai tua 2,000 i gyd. Teithiodd tua'r gogledd-ddwyrain yn hytrach na'n uniongyrchol tua'r dwyrain, a ger Cefn Digoll yng nghwmwd Gorddwr ymunodd nifer sylweddol o Gymry â'i fyddin: llu o dde-orllewin Cymru dan Rhys ap Thomas, gwŷr Gwent a Morgannwg dan yr Herbertiaid a gwŷr o ogledd Cymru dan William Griffith o'r Penrhyn. Erbyn hyn roedd ganddo fyddin o tua 5,000. Aeth yn ei flaen i drechu Rhisiart III o Loegr ar Faes Bosworth.