Rhys ap Thomas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tarian Rhys

Roedd Syr Rhys ap Thomas (1449 - 1525) yn un o uchelwyr mwyaf grymus de Cymru yn ail hanner y 15fed ganrif, a bu ganddo ran bwysig ym Mrwydr Bosworth.

Gyrfa[golygu]

Perthynai Rhys i deulu dylanwadol iawn yn Nyffryn Tywi; dywedai'r teulu eu bod yn ddisgynyddion Urien Rheged. Llwyddodd ei daid, Gruffudd ap Nicolas, i ennill grym dros ran helaeth o dde-orllewin Cymru. Roedd tad Rhys, Thomas ap Gruffudd, yn drydydd mab Gruffudd; priododd Elizabeth ferch Syr John Gruffudd, Abermarlais (ger Llandeilo), rhywbryd cyn 1446.

Milwr ym Maes Bosworth[golygu]

Erbyn i Harri Tudur lanio yn Sir Benfro yn Awst 1485 roedd Rhys mewn sefyllfa gref yn ne Cymru, a chododd fyddin o tua 2,000 o wŷr i gefnogi ymgais Harri i gipio coron Lloegr. Cyfarfu Rhys a'i ddynion ('Gwŷr y Wlad Ucha') Harri Tudur yng Nghefn Digoll ger y Trallwng ac aeth y ddau garfan yn ei blaenau drwy'r Amwythig, Stafford, Lichfield ac yna Bosworth gan gyrraedd ar ddydd Sul y 21ain o Awst.

Yn ôl traddodiad llafar, lladdwyd Rhisiart III, brenin Lloegr gan Rys. Canodd y bardd Guto'r Glyn:[1]

Syr Rhys ni welais ŵr gwell
Na'i gystal yn ei gastell.
Concweiriodd y King Harri
Y maes, drwy nerth ein meistr ni...
Lladd y baedd, eilliodd ei ben.

Gellir dehongli'r darn olaf fel cadarnhad i'r frwydr gael ei hennill oherwydd Rhys, yn ôl Emyr Wyn Jones yn ei lyfr Bosworth Field: y baedd oedd symbol herodraethol Rhisiart III.

Am ei drafferth, gwnaed ef yn farchog yn fuan wedi Brwydr Bosworth, a rhoddwyd nifer o swyddi yn ne Cymru iddo.

Mae cerddi iddo gan nifer o feirdd y cyfnod, yn cynnwys Lewys Glyn Cothi, Dafydd Nanmor, Huw Cae Llwyd a Tudur Aled. Ceir tystiolaeth yn y cerddi hyn mai ef a laddodd Rhisiart III, brenin Lloegr ym Mrwydr Bosworth. Roedd Rhys Nanmor yn dardd teulu iddo.

Y diwedd[golygu]

Dienyddwyd Syr Rhys yn 1525 ar orchymyn Harri VIII ar y cyhuddiad - di-sail mae'n debyg - ei fod yn cynllwynio yn erbyn y Goron. Cafodd ei gladdu mewn beddrod ym Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog yng Nghaerfyrddin; ar ôl diddymu'r mynachlogydd cafodd ei symud i Eglwys Sant Pedr lle mae i'w weld heddiw. Dienyddwyd ef ar sail tystiolaeth digon tila ac aeth ei diroedd (Brycheiniog a Chasnewydd) i'w ŵyr Rhys ap Gruffudd. Rhoddwyd y rhan fwyaf o'i swyddi, fodd bynnag, i Walter Devereux sef Stiward Mari Tudur.

Bywgraffiad[golygu]

Ysgrifennwyd hanes bywyd Syr Rhys ap Thomas gan un o'i ddisgynyddion, Henry Rice yn y 1620au, dan y teitl A short view of the long life... of Rice ap Thomas. Arhosodd mewn llawysgrif hyd 1796 pan gafodd ei gyhoeddi yn The Cambrian Register dan olygyddiaeth William Owen Pughe wrth y teitl The Life of Sir Rhys ap Thomas.[2] Cafodd ei olygu yn llawn am y tro cyntaf a'i gyhoeddi yn 1993 gan yr hanesydd Ralph A. Griffiths yn ei gyfrol Sir Rhys ap Thomas and his Family.[3] Gellir ei gymharu â The History of the Gwydir Family gan Syr John Wynn o Wydir fel un o'r ychydig enghreifftiau o lyfrau hanes teuluol cynnar yng Nghymru ac mae'n ffynhonnell bwysig i haneswyr yr Oesoedd Canol Diweddar.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Ralph A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas and his Family: a study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Gwasg Prifysgol Cymru, 1993) ISBN 0-7083-1218-7
  • David Rees, The Son of Prophecy: Henry Tudor's Road to Bosworth (1985; argraffiad newydd, Rhuthun, 1997)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Guto'rGlyn.net; adalwyd 22 Hydref 2013.
  2. Ralph A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas and his family.
  3. Ralph A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas and his family.

Dolennau allanol[golygu]