Brwydr Maes Bosworth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Brwydr Bosworth)
Neidio i: llywio, chwilio
Brwydr Bosworth
Rhan Rhyfeloedd y Rhosynnau
Henry7England.jpg
Harri Tudur, y cyntaf o frenhinllin y Tuduriaid
Dyddiad 22 Awst 1485
Lleoliad Market Bosworth, Swydd Gaerlŷr
Canlyniad Buddugoliaeth i'r Lancastriaid
Cydryfelwyr
Yorkshire rose.svg Rhisiart III, brenin Lloegr, Iorciaid

Thomas Howard Arms.svg John Howard, dug cyntaf Norfolk
Redvers.svg Henry Percy, 4ydd iarll Northumberland

Lancashire rose.svg Harri Tudur, Iarll Richmond, Lancastriaid Cymru a gogledd Lloegr, hurfilwyr Ffrengig ac eraill
Coat of arms of Sir John de Vere, 13th Earl of Oxford.png John de Vere, 13ydd iarll Oxford

Coat of arms of Sir Gilbert Talbot, KG.png Sir Gilbert Talbot
Jasper Tudor Arms.svg Siasbar Tudur
COA Sir Rhys ap Thomas.svg Rhys ap Thomas
Philibert de Chandée, iarll cyntaf Bath

Arweinwyr
Rhisiart III, brenin Lloegr Iarll Richmond
Iarll Rhydychen
Nerth
10,000 5,000
Anafusion a cholledion
1,000 100

Brwydr Bosworth neu Frwydr Maes Bosworth oedd brwydr olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau a ymladdwyd ar 22 Awst, 1485. Roedd Rhyfel y Rhosynnau'n rhyfel cartref rhwng a Lancastriaid a'r Iorciaid a barhaodd am ddegawdau ola'r 15fed ganrif, ac mae brwydr Maes Bosworth yn nodi diwedd teyrnasiad y Plantagenetiaid, pan laddwyd arweinydd yr Iorciaid, Richard III, brenin Lloegr gan fyddin Harri Tudur a ddaeth ar faes y gad yn Harri VII. Dyma, felly'r cyfnod hwnnw a elwir yn Cyfnod y Tuduriaid.

Map o Loegr gan ddangos lleoliad trefi a brwydrau.
Berwick
Llundain
Efrog
Plymouth
Poole
Northumberland
Amwythig
Aberdaugleddau
Battle icon active (crossed swords).svg Brwydr Bosworth Battle icon (crossed swords).svg brwydrau eraill

Glaniodd Harri Tudur ym Mhont y Pistyll ger Dale yn Sir Benfro,[1] ar 7 Awst, gyda byddin fechan o Lancastriaid, yn Ffrancwyr, Llydawyr ac Albanwyr yn bennaf, efallai tua 2,000 i gyd. Teithiodd o Benfro tua'r gogledd-ddwyrain yn hytrach na'n uniongyrchol tua'r dwyrain, ac yn ardal Cefn Digoll ger Y Trallwng ymunodd nifer sylweddol o Gymry â'i fyddin: llu o dde-orllewin Cymru dan Rhys ap Thomas, gwŷr Gwent a Morgannwg dan yr Herbertiaid a gwŷr o ogledd Cymru dan William Griffith o'r Penrhyn. Dywedir bod Harri wedi ymgynghori â'r brudwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn yn ei blasdy bychan ym Mathafarn ar ei ffordd yno i gael ei farn ; chwaraeodd y cerddi brud a gylchredai yng Nghymru ran bwysig yn ymgyrch Harri Tudur fel modd i ysbrydoli ei gefnogwyr yng Nghymru i gredi mai ef oedd y Mab Darogan hirddisgwyliedig a fyddai'n adfer Ynys Prydain i feddiant y Brythoniaid, gan wireddu'r hen ddarogan. Erbyn iddo gyrraedd Cefn Digoll roedd ganddo fyddin o tua 5,000.

Cofeb am laniad Harri Tudur ym Mhont y Pistyll ger Dale yn Sir Benfro.

Roedd gan Rhisiart III, brenin Lloegr fyddin gryn tipyn yn fwy, ond roedd amheuaeth ynghylch teyrngarwch llawer ohonynt. Cyfarfu'r ddwy fyddin ar safle gerllaw Sutton Cheney a Market Bosworth yn Swydd Gaerlŷr yng nghanolbarth Lloegr, ond mae dadl ynglŷn â'r union leoliad. Roedd tua 6,000 o wŷr dan Arglwydd Stanley a'i frawd, ac wedi iddynt wrthod ymuno a'r frwydr ar y dechrau, ymosodasant i gefnogi Harri Tudur. Lladdwyd Richard, a daeth Harri Tudur yn frenin fel Harri VII.

Llinell Amser[golygu | golygu cod y dudalen]

Taith Harri Tudur drwy Gymru.
  • 7 Awst - Glaniodd Harri ym Mhont y Pistyll (Dale), ger Hwlffordd
  • 7 Awst - 15 Awst – Gorymdeithiodd trwy Gymru yn casglu mwy o ddynion
  • 21 Awst – Cyrhaeddod Bosworth, ger Caerlŷr
  • 22 Awst – Brwydr Bosworth

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Gwyddoniadur Cymreig; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; tud 93.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Emyr Wyn Jones, Bosworth Field: A Welsh Perspective (1984)
  • A.L. Rowse, Bosworth Field and the Wars of the Roses (1966)