Harri IV, brenin Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Harri IV, brenin Lloegr
GanwydEbrill 1367 Edit this on Wikidata
Castell Bolingbroke Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mawrth 1413 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, Arglwydd Iwerddon Edit this on Wikidata
TadJohn o Gaunt Edit this on Wikidata
MamBlanche o Gaerhirfryn Edit this on Wikidata
PriodMary de Bohun, Juana o Navarra Edit this on Wikidata
PlantHarri V, brenin Lloegr, Jan Lancaster, Humphrey o Gaerhir, Dug Caerloyw 1af, Blanche o Loegr, Philippa o Loegr, Edward Plantagenet, Thomas o Gaerhirfryn Edit this on Wikidata
LlinachLancastriaid, Llinach y Plantagenet Edit this on Wikidata
llofnod

Harri IV neu Henry Bolingbroke (3 Ebrill 136720 Mawrth 1413) oedd brenin Lloegr o 30 Medi 1399 hyd ei farwolaeth.

Harri oedd mab John o Gaunt a'i wraig Blanche o Lancaster. Cafodd ei eni yng Nghastell Bolingbroke. Daeth i rym yn y flwyddyn 1399 wedi iddo lwyddo i orchfygu'r brenin blaenorol, Rhisiart II, a bu'n teyrnasu yn Lloegr adeg gwrthryfel Owain Glyn Dŵr.

Priododd Mary de Bohun ym 1380. Bu farw Mary ym 1394.

Ar ôl dod yn frenin, priododd Harri Juana o Navarra, gweddw dug Llydaw. Doedd dim blant o'r briodas hon.

Shakespeare[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd y dramodydd Seisnig enwog William Shakespeare gyfres o dair drama amdano, sef Richard II, sy'n croniclo gwrthryfel Bolingbroke yn erbyn Rhisiart II, Henry IV, Rhan I sy'n croniclo gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn erbyn Bolingbroke Henry IV, Rhan II sy'n croniclo marwolaeth Bolingbroke a dyfodiad ei fab Harri V i'r orsedd. Ystyrir y dramâu yn rhai o'r enghreifftiau gorau o ddramâu hanes yn y traddodiad Saesneg, ac mae Henry IV Rhan I yn cael ei gweld fel un o ddramâu gorau Shakespeare.

Rhagflaenydd:
Rhisiart II
Brenin Loegr
30 Medi 139920 Mawrth 1413
Olynydd:
Harri V
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.