Market Bosworth

Oddi ar Wicipedia
Market Bosworth
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolHinckley a Bosworth
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerlŷr
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaCarlton Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6239°N 1.4017°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012372, E04005499 Edit this on Wikidata
Cod OSSK4003 Edit this on Wikidata
Cod postCV13 Edit this on Wikidata
Map

Tref fechan a phlwyf sifil yn Swydd Gaerlŷr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Market Bosworth.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Hinckley a Bosworth. Saif tua hanner ffordd rhwng Tamworth a dinas Caerlŷr.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,097.[2]

Rhoddwyd siarter yn rhoi'r hawl i gynnal marchnad ynddi gan y brenin Edward I o Loegr yn 1285.

Mae'n adnabyddus yn bennaf am roi ei enw i Frwydr Maes Bosworth, y frwydr olaf yn Rhyfeloedd y Rhosynnau, a ymladdwyd ar 22 Awst 1485. Roedd gan y brenin Rhisiart III o Loegr fyddin gryn tipyn yn fwy na byddin Gymreig Harri Tudur, ond roedd amheuaeth ynghylch teyrngarwch llawer ohonynt. Cyfarfu'r ddwy fyddin ar safle ger Market Bosworth. Roedd tua 6,000 o wŷr dan Arglwydd Stanley a'i frawd, ac wedi iddynt wrthod ymuno a'r frwydr ar y dechrau, ymosodasant i gefnogi Harri Tudur. Lladdwyd Richard, a daeth Harri Tudur yn frenin fel Harri VII o Loegr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 9 Ebrill 2020
  2. City Population; adalwyd 9 Ebrill 2020
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerlŷr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato