Rhisiart III, brenin Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhisiart III
Richard III earliest surviving portrait.jpg
Y llun cynharaf o Rhisiart (c. 1520, wedi colli'r gwreiddiol)
(Society of Antiquaries of London, Llundain)
Brenhinoedd a Breninesau Lloegr
Teyrnasiad 26 Mehefin 1483 – 22 Awst 1485
Coronwyd 6 Gorffennaf 1483
Rhagflaenydd Edward V
Olynydd Harri Tudur
Ganwyd (1452-10-02)2 Hydref 1452
Castell Fotheringhay, Northamptonshire
Bu farw 22 Awst 1485(1485-08-22) (32 oed)
Brwydr Bosworth, Swydd Gaerlŷr
Claddwyd Maes parcio Greyfriars, Caerlŷr
Cymar Anne Neville
Plant
Teulu Teulu Efrog
Tad Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog
Mam Cecily Neville, Duges Efrog
Llofnod
Beddrod Rhisiart III yn Eglwys Gadeiriol Caerlŷr

Rhisiart III (2 Hydref 145222 Awst 1485) oedd brenin Lloegr o 6 Gorffennaf, 1483, hyd ei farwolaeth ar faes y gad ym Mrwydr Bosworth a hynny gan Rhys ap Thomas yn ôl y bardd Guto'r Glyn, pan ddywedodd: "Lladd y baedd, eilliodd ei ben".[1]

Fe'i ganwyd yng Nghastell Fotheringay, yn fab i Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog (1411–1460) a'i wraig Cecily Neville.

Rhisiart oedd brawdd y brenin Edward IV, brenin Lloegr, Siôr, Dug Clarens a Marged, Duges Bwrgwyn. Cafodd ei ladd ar Faes Bosworth ar 22 Awst 1485 a chipiodd Harri Tudur Goron Lloegr. Yn ôl Jean Molinet o Fwrgwyn, ataliwyd ceffyl Richard gan gors, cafodd ei dowly neu ei fwrw o'i geffyl 'a'i ladd gan filwyr o Gymru'.

Cipio'r awenau[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan farwodd ei frawd, Edward IV, o strôc, roedd eisioes wedi cyfarwyddo yn ei ewyllus y dylai ei frawd Richard lywodraethu ar ran ei fab Edward fel 'Arglwydd Amddiffynnydd'. Ond cipiodd Richard yr awenau oddi wrth y bachgen 12-mlwydd-oed gyda 20,000 o'i filwyr wedi teithio i Lundain o Ogledd Lloegr. Gwnaeth hyn drwy gyhoeddi fod priodas Edward IV ac Elizabeth Woodville yn anghyfreithiol, ac felly nad oedd hawl cyfreithiol gan Edward i ael ei goroni. Flynyddoedd ynghynt roedd Edward IV wedi dychryn pawb drwy briodi Elizabeth - un o deulu cyffredin, yn hytrach nag o dras uchelwrol. Rhoddwyd cyfoeth a swyddi bras i lawer o deulu'r Woodvilles, gan ffyrnigo llawer. Pan ddaeth Richard i Lundain fel Arglwydd Amddiffynnydd, dechreuodd erlyn rai o'r teulu a ffôdd Syr Edward Woodville i Lydaw gyda £10,250, gan geisio Siasbar Tudur a Harri VII fel cyd-gynllwynwyr ymosodiad potensial ar Goron Lloegr.

Un o'r newidiadau cyntaf a wnaeth Richard, ychydig cyn ei goroni oedd penodi Buckingham yn Brif Ustus ar Gymru ac yn Gwnastabl a Stiward ar 53 o gestyll Cymru.[2]. Roeddent yn fygythiad i Richard, wrth gwrs

Lladd y ddau blentyn yn Nhŵr Llundain[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ddiwrnod ei goroni, chwarae ar lawnt y Tŵr oedd y ddau blentyn: Edward a Rhisiart, dug Efrog, plant Edward V. Roedd y mab hynaf, Edward V, wedi bod yn frenin, mewn enw, am 86 diwrnod. Diflanodd y ddau o'r Tŵr ac mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn beio eu hewyrth Richard.[3] Yn ôl Thomas More, cawsant eu mygu gyda chlustog; yn ôl Shakespeare, yn ei ddrama 'Richard III', gwneir hynny gan Tyrrell ar orchymyn Richard III.

Roeddent y ddau, wrth gwrs, yn fygythiad i barhad cais Richard am Orsedd Lloegr.

Darganfod ei ysgerbwd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 12 Medi 2012 cafwyd hyd i'w weddillion o dan maes parcio ceir lle gynt y safodd Abaty Greyfriars yng Nghaerlŷr gan archeolegwyr o Brifysgol Caerlŷr ac eraill.[4] Roedd nam ar yr asgwrn cefn – a blygai ar siap pladur a olygai i'r person fod wedi dioddef o scoliosis; golyga hyn fod ysgwydd dde'r person hefyd yn uwch na'r ysgwydd chwith. Profodd profion DNA a dyddio carbon mai hwn oedd ysgerbwd Rhisiart. Mae oed y sgerbwd – a gredir i fod yn sgerbwd dyn rhwng 30 a 33 oed – hefyd yn ffitio'r patrwm gan mai 32 oedd oed Richard yn marw.

Gwayw-fwyell (neu halberd) a thrawiad gan gleddyf a'i lladdodd, ac mae hyn yn cadarnhau disgrifiad Guto'r Glyn i Rhys 'siafio'i ben'. Roedd gwaelod y penglog wedi'i hacio i ffwrdd gan y wayw-fwyell gan dreiddio sawl centimetr i fewn i'r ymenydd; golyga hyn y byddai Richard wedi'i fwrw'n anymwybodol ar unwaith, gan farw ychydig wedyn. Roedd anafiadau eraill i'w gweld yn y penglog a mannau eraill, nifer ohonynt gan gleddyfau a chyllyll.

Cariwyd ei gorff noeth o faes y gad ar gefn ceffyl ac yna'i arddangos yn Abaty Greyfriars. Dywedodd yr Osteoarchaeolegwr Dr Jo Appleby fod ôl crafiad gan gleddyf ar ganol y clun, yn union o dan llinell yr asgwr cefn, a'i fod wedi'i wneud ar ôl tynnu'r arfwisg oddi amdano. Mae'n bosib felly, meddai, i hyn ddigwydd pan oedd y corff wedi'i osod ar y ceffyl fel rhan o'r dathliadau - gwthio cleddyf i fyny tin y brenin.[5]

Gwraig[golygu | golygu cod y dudalen]

Plant[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhagflaenydd:
Edward V
Brenin Loegr
6 Gorffennaf 148322 Awst 1485
Olynydd:
Harri VII

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Griffith, Ralph, Sir Rhys ap Thomas and his family: a study in the Wars of the Roses and early Tudor politics, University of Wales Press, 1993, tud.43. Gweler hefyd: guto'r glyn.net
  2. Bosworth gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 123.
  3. (Saesneg) Horrox, Rosemary. "Edward V (1470–1483)". Oxford Dictionary of National Biography (online ed.). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/8521.  (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  4. Gwefan englishmonarchs.com; adalwyd 24 Hydref 2013.
  5. Gwefan Google Books; The King's Grave: The Search for Richard III gan Philippa Langley a Michael Jones; adalwyd 24 Hydref 2013