Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Thomas Stanley)
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas Stanley
Thomas-Stanley-1st-Earl-of-Derby.jpg
Ganwyd 1435
Bu farw Gorffennaf 29, 1504(1504-07-29) (69 oed)
Priod Lady Eleanor Neville
Yr Arglwyddes Margaret Beaufort
Plant


George Stanley, 9fed barwn Strange
Syr Edward Stanley
James Stanley, Esgob Ely
Tad Thomas Stanley, barwn cyntaf Stanley
Mam Joan Goushill

Uchelwr cyfoethog a thad-gwyn Harri Tudur oedd Thomas Stanley (143529 Gorffennaf 1504), iarll cyntaf Derby, a Brenin Manaw (yr olaf i ddefnyddio'r enw). Ef oedd mab hynaf Thomas Stanley, barwn cyntaf Stanley a Joan Goushill. Drwy ei fam, roedd yn un o ddisgynyddion Edward I (drwy Elisabeth o Ruddlan), Iarlles Henffordd a thrwy deulu FitzAlan roedd yn ddisgynydd Harri III. Priododd Eleanor, merch yr Iorcydd Richard Neville, 5ed iarll Salisbury yn gyntaf; roedd hi'n chwaer i Richard Neville, iarll Warwick ("Y Gwneuthurwr Brenhinoedd"). Yna, yn 1472 priododd Margaret Beaufort, mam Harri Tudur, wedi iddi golli ei gŵr cyntaf Edmwnd Tudur oedd o deulu Cymreig, a Lancastriad i'r carn.

Roedd yn dirfeddianwr pwerus a chyfoethog, ac roedd y rhan fwyaf o'i diroedd yng ngogledd-orllewin Lloegr ble gweithredai fel brenin ar adegau, heb neb yn meiddio'i wrthwynebu. Y nodwedd bwysicaf ohono efallai yw iddo gadw'i ben - a chadw perthynas dda gyda sawl brenin drwy gydol Rhyfel y Rhosynnau, tan iddo farw yn 1504. Roedd ei diroedd yn cynnwys y mannau a elwir heddiw yn Tatton Park (Swydd Gaer), Lathom House (Swydd Gaerhirfryn) a Derby House yn ninas Llundain; ef hefyd oedd siambrlen Gogledd Cymru.

Disgrifir ef ym Mywgraffiadur Rhydychen fel dyn o allu a gweledigaeth miniog, a mwy na thebyg y dyn mwyaf pwerus o'i oes.[1]

Gyda'i frawd William, ar y funud olaf, ochrodd gyda Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth, a dywed Vergil mai Thomas Stanley a gododd goron Richard II o'r llawr a'i roi ar ben Harri Tudur.

Brwydr Maes Bosworth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Brwydr Maes Bosworth
Cerflun o Stanley a'i glustiau mawr, yn Eglwys Sant Silyn, Wrecsam.

Margaret Beaufort, ei wraig, a mam Harri Tudur oedd wrth wraidd gwrthryfel aflwyddiannus 1483, pan drodd saith llong o Lydaw yn eu holau, a phan dienyddiwyd gwrthryfelwyr fel Henry Stafford, ail ddug Buckingham, roedd Richard III mewn cyfyng-gyngor beth i'w wneud gyda Margaret. Yn hytrach nag ymuno gyda gwrthryfel Buckingham, beth wnaeth Thomas Stanley oedd dim. Nid ochrodd gyda'i wraig Margaret a Harri, a thrwy hynny, roedd yn deyrngar i Richard. Gwobrwywyd ef gan y brenin: gydag arglwyddiaeth Kimbolton a maenor Buckingham yn Thornbury yn Swydd Gaerloyw, a derbyniodd lawer o diroedd yn Lloegr a pheth yng Nghymru. Roedd eisioes (o dan Buckingham) yn un o uchelwyr grymusaf Cymru. Nid ymunodd y Cymru yn y gwrthryfel cyntaf, aflwyddiannus, hwn - yn bennaf gan nad oedd Thomas Stanley yn rhan o'r ymgyrch. Yn eu barn nhw, Sais oedd Henry Stafford, ac nid oes tystiolaeth i unrhyw uchelwr o Gymro ei ddilyn. Yn hytrach na dienyddio Margaret am ei rôl blaenllaw yn yr ymgyrch, tynnodd Richard III ei harian oddi wrthi a'i roi i'w gŵr; yn yr un modd tynnodd ei gweision a'i morynion oddi wrthi a'i chaethiwo dan ofal ei gŵr.

Roedd Richard wedi'i amau ef a'i frawd iau William ers tro, ac ofnodd y byddai'n deyrngar i'w wraig a'i mab Harri, a gwireddwyd hyn. Yn haf 1485 mynnodd Richard III fod Thomas yn danfon ei fab (George Lord Strange) ato fel gwystl, a gwnaed hynny. Pan laniodd Harri ym Mhenfro danfonodd y brenin orchymyn i Thomas ddod ato i Nottingham, ond ni ufuddhaodd Thomas. Yn ôl y gerdd Bosworth Field roedd Thomas Stanley ym Manceinion ac ar ei ffordd i Nottingham pan drawyd ef yn wael. Yn ôl cerdd Gymraeg o'r cyfnod hwn, cymerodd y brenin gwystl arall: nai William Stanley (ar ochr ei wraig) sef William Gruffudd a wnaed yn Siambarlen Gwynedd yn 1843.[2] Pe bai Thomas neu William wedi ochri gyda Harri'n agored, byddai'r ddau wystl wedi'u dienyddio.

Shakespeare[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Shakespeare yn gosod Stanley yn gymeriad allweddol yn ei ddrama Richard III sy'n amau ei frenin o gychwyn y ddrama a hyn yn ei arwain i gyd-gynllwynio gyda Harri Tudur ac yn weithredol iawn yn y frwydr i'w orseddu'n frenin. Credir i'r ddrama hon gael ei sgwennu rhwng 1592–93.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyfieithiad o: Stanley was “a man of considerable acumen, and probably the most successful power-broker of his age”. Oxford Dictionary of National Biography. 2004.
  2. Bosworth - The Birth of the Tudors gan Chris Skidmore; t. 250; Phoenix Press; 2013.
  3. Dobson, Michael; Wells, Stanley, ed. (2001). The Oxford Companion to Shakespeare. Oxford University Press. ISBN 9780198117353.