Rhys Fawr ap Maredudd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fe/Effigies%2C_Ysbyty_Ifan_-_geograph.org.uk_-_1170458.jpg/300px-Effigies%2C_Ysbyty_Ifan_-_geograph.org.uk_-_1170458.jpg)
Milwr Cymreig ac uchelwr a frwydrodd ar ochr Harri Tudur ym Mrwydr Maes Bosworth oedd Rhys Fawr ap Maredudd neu Rhys Fawr ap Maredydd o Hiraethog, a dyn o gryfder a maint aruthrol.[1] Dywedir iddo fod yn gyfrifol am faner y Ddraig Goch ar faes y gad, yn dilyn marwolaeth Syr Henry Brandon. Ef yn fwy na neb arall oedd arweinydd Cymry Gwynedd a Chonwy ym mrwydr Maes Bosworth.
Cefndir[golygu | golygu cod]
Roedd yn byw ym Mhlas Iolyn yn Ysbyty Ifan (Sir Conwy heddiw) a gellir gweld cofeb iddo ef a'i wraig Lowri a'u mab Rhobert ap Rhys yng Nghapel Pantglas, yn eglwys y plwyf, lle cafodd ei gladdu.[2] Roedd yn dal yn fyw yn 1510, ond ni wyddys union ddyddiad ei farwolaeth.
Roedd o linach uchelwrol ac ymfalchiai y gallai olrhain ei gyndadau 500 mlynedd, i Marchweithian - un o sefydlwyr pymtheg llwyth Gwynedd. Cadarnhaodd Edward Lhuyd yn Rhydychen yn 1707 ac eraill wedyn ddilysrwydd ei linach ddi-dor. Roedd Rhys hefyd yn gyfoethog iawn. Cafodd Lowri a Rhys bump mab a chwech o ferched.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Teulu Plas Iolyn gan Dr. Enid Pierce Roberts.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ History of Powys Fadog' gan J. Y. W. Lloyd, 1882; cyfrol 3 tud 341-2
- ↑ Bosworth Field gan Emyr Wyn Jones, Modern Welsh Publications, 1984; tud 28-29.