Ysbyty Ifan
![]() | |
Math |
pentref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.021°N 3.723°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref a chymuned yn Sir Conwy yw Ysbyty Ifan. Lleolir y pentref ar lannau Afon Conwy ifanc, rhai milltiroedd i'r de o Bentrefoelas ar lôn y B4407 (sy'n cysylltu Pentrefoelas ar yr A5 â Ffestiniog). Hen enw Ysbyty oedd Dolgynwal.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn yr Oesoedd Canol, roedd yr ardal yn rhan o gwmwd Is Aled, cantref Rhufoniog. Daw enw'r pentref o un o ysbytai Marchogion yr Ysbyty a sefydlwyd yno tua'r flwyddyn 1190 gan Ifan ap Rhys o Drebrys, yn ôl traddodiad; does dim olion o'r safle i'w gweld heddiw. Er bod Ysbyty Ifan yn ymddangos yn lle digon diarffordd heddiw, yn yr Oesoedd Canol safai ar ffordd bwysig a gysylltai Llŷn ac Eryri i'r gorllewin ac ardaloedd y Gororau i'r dwyrain. Cafodd yr Ysbyty nawdd gan Llywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf ac yn y 13g roedd gan y sefydliad enw da am ei letygarwch. Roedd gan yr ysbyty (hosbis), a godwyd ar gyfer teithwyr a phererinion i Ynys Enlli, yr hawl gyfreithiol i fod yn noddfa ac yn ddiweddarach arweiniodd hynny at sawl herwr guddio yno neu yn y cyffiniau. Parhaodd y sefyllfa felly hyd y 15g pan roddodd yr uchelwr lleol Maredudd ap Ieuan derfyn arno.[1]
Adeiladau hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Pont a melin
Mae pont ddeniadol sy'n dyddio o'r 18g yn croesi Afon Conwy yn y pentref. Gerllaw ceir bythynnod traddodiadol sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth werinol Eryri a'r cylch. Ar lan yr afon saif hen felin a adeiladwyd yn yr 17g. Am gyfnod defnyddid olwyn dŵr y felin i gynhyrchu trydan (hyd 1961).
- Yr eglwys
Codwyd yr eglwys bresennol, Eglwys Sant Ioan, yn 1861 ar safle'r hen eglwys. Ynddi cedwir tair cofeb o'r hen eglwys, o Rys Fawr ap Maredudd o Fryn Gwyn, a ddygodd faner Harri Tudur ar Faes Bosworth, ei wraig Lowri, a'u trydydd fab Robert, a fu'n gaplan i'r Cardinal Thomas Wolsey.[2]
Ym mynwent yr eglwys mae bedd Sion Dafydd Berson neu Sion Dafydd Glocsiwr oedd yn berson yn hen gapel yr Owen ym Mhentrefoelas; ef oedd athro Twm o'r Nant ac ef a'i dysgodd i ddarllen gyntaf. Ar ei garreg fedd mae englyn gan Twm o'r Nant i'w hen athro: "Galar, i'r ddaear ddu - aeth athraw..."
- Hen anheddau
Bu Helga Martin yn tynnu lluniau hen fyrddynnod y plwyf yn 2012-13. Fe‘u cyhoeddwyd ym Mwletinau Llên Natur [1]:
Mur Poeth
Cafwyd yr ymateb canlynol i lun Helga Martin o hwn:
- Thank you for sharing this photograph. According to a christening record in Ysbyty Ifan parish records this house Murpoeth was occupied by Morice Faulk, a cottager, his wife Elizabeth nee Jones and new daughter Gwen on 25th September 1814. I believe they are ancestors of mine. It's marked on the 1838 first edition Ordnance Survey map too.[2]
Enghreifftiau eraill o luniau i’w gweld ar wefan Llên Natur [3] (chwilier am Ysbyty Ifan gan ddewis Oriel) yw Bryniau Defaid, Hafod Uddig, Moelfryn, Trawsnant, Gwernhywel Bach, Graig Ddu, Bryn Tirion, Bryn Gwyn, Y Fedw, Cefn Gwyn, Cefn Garw, Ty Cipar, Rhyd Goch, Ty Bach Mynydd, Rhyd yr Uchain [sic.] a Beudy Ty’n Coed.
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rhys Fawr ap Maredudd - marchog canoloesol.
- Wiliam Cynwal - bardd o'r 16g, enwog am ei ymryson barddol ag Edmwnd Prys.
- T. Osborne Roberts (ganwyd 12 Chwefror, 1879), bardd. Cyfansoddodd "Pistyll y Llan", "Y Nefoedd" a thôn "Pennant". Priododd Leila Megane.
- "El Bandito" Orig Williams - Reslwr a hyrwyddwr
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Llyn Conwy - tarddle Afon Conwy
- Y Migneint - corsdir eang sy'n lle da am adar
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ W. Ogwen Williams, 'A note on the history of Ysbyty Ifan', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, cyf. 15 (1954).
- ↑ W. Ogwen Williams, op. cit..
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan