Wiliam Cynwal

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Bardd Cymraeg proffesiynol a ganai yn ail hanner yr 16g oedd Wiliam Cynwal (m. 1587 neu 1588 efallai). Roedd yn frodor o Ysbyty Ifan yn yr hen Sir Ddinbych.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Wiliam Cynwal yn un o'r to olaf o'r beirdd proffesiynol a ganai yn nhai'r uchelwyr i ennill eu tamaid. Bu'n ddisgybl barddol i Gruffudd Hiraethog (m. 1564) a chafodd ei radd fel disgybl pencerddaidd yn ail Eisteddfod Caerwys yn 1567, a derbyniodd radd pencerdd wedyn.

Ysgrifennodd nifer o lawysgrifau oedd yn cynnwys achau, gramadegau'r penceirddiaid a'r brutiau, ynghyd â cherddi. Roedd yn enwog yn ei ddydd fel achyddwr ac yn ffigwr cyfarwydd yn nhai'r uchelwyr ledled gogledd Cymru. Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn sydd wedi gadael bron i 300 o gywyddau, tua 50 o awdlau a bron i 500 o englynion. Ei waith enwocaf yw'r cywyddau ganddo sy'n rhan o'r ymryson barddol enwog am natur dysg a barddoniaeth rhyngddo ac Edmwnd Prys, archddiacon Meirionnydd. Canodd Prys farwnad i Gynwal sy'n dangos eu bod yn gyfeillion er gwaethaf natur ymosodol yr ymryson ar adegau. Fe'i cofir am yr ymryson honno ac fel un o gynheiliad olaf a mwyaf dygn y traddodiad barddol Cymraeg.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)