Rhys ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn Lygliw

Oddi ar Wicipedia
Rhys ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn Lygliw
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd canoloesol a hanodd o ganolbarth Cymru, yn ôl pob tebyg, oedd Rhys ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn Lygliw (fl. diwedd y 14g - dechrau'r 15g?).

Ni wyddys dim o gwbl amdano ar wahân i'r ffaith fod ei enw yn ei gysylltu â theulu'r Llygliwiaid, teulu o feirdd o ardal gogledd Powys a Meirionnydd sy'n cynnwys Gruffudd Llwyd a Hywel ab Einion Lygliw.

Dim ond un testun o waith y bardd sydd wedi goroesi. Cywydd serch i ferch anhysbys ydyw.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill (Aberystwyth, 2000).