Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed

Oddi ar Wicipedia
Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed
Ganwyd1330s Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg a ganai yn ail hanner y 14g oedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed (tua'r 1330au - tua diwedd y 14g).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ni wyddys nemor dim am y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi, ond ceir nodyn gan Evan Evans (Ieuan Fardd) (18g) yn cyfeirio ato fel gŵr o Farchwiail yng nghwmwd Maelor Gymraeg (ardal Wrecsam heddiw). Roedd un o'i noddwyr, Rhisiart ap Syr Rhosier Pilstwn, yn byw ym Maelor Saesneg. Ymddengys felly fod y bardd yn frodor o ogledd-ddwyrain Cymru, ac efallai o Faelor Gymraeg.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Cedwir tair awdl ac un cywydd o waith y bardd, cyfanswm o 539 llinell. Ceir dwy awdl foliant, un i Ddafydd Fychan ap Dafydd Llwyd o Drehwfa a Threfeilir (Môn), a'r llall i Hywel ap Goronwy ap Tudur Hen o Benmynydd (Môn eto). Canodd gywydd i ofyn telyn i Risiart ap Syr Rhosier Pilstwn, sy'n cynnwys ymddiddan rhyngddo a'i gydfardd Rhisierdyn. Ceir hefyd awdl grefyddol i Grist a Mair.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Erwain Haf Rheinallt (gol.), 'Gwaith Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed', yn Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth, 1995). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Erwain Haf Rheinallt (gol.), 'Gwaith Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed'. Rhagymadrodd