Marchwiail
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, tua dwy filltir a hanner i'r de-ddwyrain o dref Wrecsam ei hun, yw Marchwiail (llurguniad Saesneg: Marchwiel).
Gorwedd y pentref ym mhlwyf Marchwiail ym Maelor Gymraeg, ym Maelor, y rhan o ogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymwthio i mewn i Loegr, ar yr A525 hanner ffordd rhwng Wrecsam a Bangor Is Coed i'r de-ddwyrain.
Ystyr marchwiail yw "brigau mawr, gwiail praff" neu "goed ifainc" (unigol: marchwialen).[1] Efallai bod yr ardal yn nodwedig o goediog ar un adeg.
Cysegrir yr eglwys i'r Santes Marchell ac i Sant Deiniol. Yn ôl yr hynafiaethydd Edward Lhuyd, i Ddeiniol y cyflwynwyd yr eglwys ar y dechrau. Cafodd adeilad yr eglwys ei ailgodi o'r newydd bron yn y 18g. Mae'n adnabyddus am ffenestr wydr-liw a adnabyddir fel "ffenestr Yorke".[2]
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf. 3, tud. 2359.
- ↑ Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Dinbych (Cyfres Crwydro Cymru, 1961), t. 118.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Johnstown · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhosddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Y Waun · Wrecsam · Wrddymbre