Llechrydau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Pentref yn ne Bwrdeisdref Sirol Wrecsam yw Llechrydau. Roedd yn rhan o sir Clwyd hyd 1996 a chyn hynny yn Sir Ddinbych.

Gorwedd y pentref wrth lethrau gogleddol Y Berwyn tua 5 milltir i'r de-orllewin o'r Waun a 6 milltir i'r de o dref Llangollen, llai na milltir o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Mae Afon Morda yn tarddu ym mhen gogleddol y Berwyn ger Llechrydau. Tua dwy filltir yn is i lawr mae hi'n croesi'r ffin i Loegr ac yn llifo i gyfeiriad Croesoswallt.


CymruWrecsam.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato