Neidio i'r cynnwys

Y Mwynglawdd

Oddi ar Wicipedia
Y Mwynglawdd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,617, 1,491 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Sirol Wrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,175.74 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0593°N 3.0937°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000900 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ267518 Edit this on Wikidata
AS/au y DUAndrew Ranger (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymru, yw Y Mwynglawdd (Saesneg: Minera). Y pentrefi cyfagos yw Coedpoeth i'r dwyrain a Bwlchgwyn i'r gogledd-orllewin. Y Mw'nglodd yw'r enw ar lafar yn lleol.

Ar un adeg bu Mwynglawdd yn gymuned amaethyddol gyda nifer o ffermydd yn y cylch, ond serch hynny cloddid plwm yn yr ardal ers yr Oesoedd Canol. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, tyfodd Mwynglawdd yn bentref sylweddol gyda mwyngloddiau newydd yn cael eu hagor o'i gwmpas.

Codwyd capel cyntaf y pentref ym 1804, ar safle'r capel presennol. Cafodd ei ailenwi yn Gapel Mwynglawdd ac yna, yn 1859, yn Gapel Pen y Bryn. Er gwaethaf y ffaith ei fod mor agos i'r ffin â Lloegr, bu'r pentref, fel nifer o'r rhai eraill yn y cylch, yn gartref i gymuned Gymraeg.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Mwynglawdd (pob oed) (1,617)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Mwynglawdd) (290)
  
18.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Mwynglawdd) (1153)
  
71.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Mwynglawdd) (229)
  
33.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]