Neidio i'r cynnwys

Pontfadog

Oddi ar Wicipedia
Pontfadog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGlyntraean Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.935°N 3.14°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ233381 Edit this on Wikidata
AS/au y DUAndrew Ranger (Llafur)
Map
Englyn ar garreg fedd yn yr eglwys

Pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yw Pontfadog. Saif yng nghymuned Glyntraean, yn Nyffryn Ceiriog gerllaw Afon Ceiriog, ar y ffordd B4500 rhwng Y Waun a phentref Glyn Ceiriog. Sant Ioan y Bedyddiwr yw'r eglwys leol, a ffurfiwyd plwyf newydd Pontfadog ar 15 Ebrill, 1848, o blwyf hynafol Llangollen.

Pontfadog
Yr hen orsaf

Safodd Derwen Bontfadog yn ymyl y pentref, yr un hynaf yng ngwledydd Prydain, ond syrthiodd y goeden oherwydd gwyntoedd cryfion ar 17 Ebrill 2013.[1]

Roedd gan Dramffordd Dyffryn Ceiriog orsaf yn y pentref.

Ceir yma dafarn a siop sydd hefyd yn gweithredu fel swyddfa'r post.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Fwrdeistref Sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato