Afon Ceiriog
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.95°N 3°W |
Aber | Afon Dyfrdwy |
Afon yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Afon Ceiriog. Mae'n rhoi ei henw i ddyffryn Ceiriog.
Tarddle'r afon yw llechweddau deheuol Moel Fferna tua 1800 troedfedd uwchben y môr[1] lle mae Afon Ceiriog Ddu yn tarddu a llifo tua'r de. Gelwir hi'n Afon Ceiriog wedi i Nant Ysgallog ymuno â hi, ac ychydig ymhellach i'r de mae Nant Rhydwilym yn ymuno. Mae'n llifo tua'r dwyrain heibio pentrefi Llanarmon Dyffryn Ceiriog a Thregeiriog, yna'n troi tua'r gogledd-ddwyrain heibio Glyn Ceiriog, lle mae'n troi eto tua'r dwyrain a llifo heibio Pontfadog. Gerllaw Y Waun mae Camlas Llangollen yn ei chroesi. Llifa wedyn tua'r gogledd-ddwyrain, gan ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Swydd Amwythig yn Lloegr am rai milltiroedd, cyn ymuno ag Afon Dyfrdwy. Mae’r afon yn 29 milltir o hyd.