Coedpoeth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Coedpoeth
Coedpoeth wrexham.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Wrecsam Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.0547°N 3.0742°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000894 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ285515 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Ken Skates (Llafur)
AS/au Susan Elan Jones (Llafur)
Capel Rehoboth, Coedpoeth, sydd bellach wedi'i ddymchwel.

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Coedpoeth. Mae'r pentref yng nghanol olion diwydiant cloddio mwynau megis plwm, haearn a glo llefydd fel Brymbo, Bersham a'r Mwynglawdd (Minera).

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Susan Elan Jones (Llafur).[1][2]

Pedair Cymuned[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae pedair rhan i'r Pentref:-

  • Y Nant yw'r hynaf o'r ardaloedd, sydd i'r gogledd o Afon Clywedog. Roedd llawer iawn o byllau-glo bach yn y rhan yma o'r pentref a chodwyd llawer o dai ar gyfer mwyngloddwyr calch, plwm a glo.
  • Mae'r Adwy yn ardal sy'n agos iawn i Glawdd Offa ac mae'r gair 'adwy' o bosib yn cyfeirio at fwlch yn y clawdd hwnnw. Mae'r Adwy yn ardal serth iawn, wrth i chi ddringo i fyny at y pentref sydd tua 795 troeddfedd uwch y môr. Yn yr Adwy roedd Capel anghydffurfiol cyntaf yr ardal sef Capel Adwy'r Clawdd (Methodistiaidd Calfinaidd).
  • Saif y Talwrn yn ardal ogleddol Coedpoeth, sydd i'r de o Afon Gwenfro sy'n llifo i lawr drwy Glanrafon at Wrecsam ac i Ddyfrdwy. Roedd yn y Talwrn nifer o byllau glo yn cynnwys 'Pwll Y Talwrn' a ddaeth i ben tua 1914.[angen ffynhonnell]
  • Y Smelt yw'r enw ar yr ardal lle roedd coed efallai yn cael eu llosgi i drin y plwm a'r haearn.

Mwyngloddiwyd plwm o weithfeydd plwm Y Mwynglawdd, gerllaw.

Yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddiwyd yr enw (Coid Poch) yn gyntaf yn 1391 a'r sillafiad cyfoes yn 1412.[3] Mae'n bosib fod yr enw "poeth" yn cyfeirio at yr arferiad o losgi pren i greu siarcol a arferid ei ddefnyddio yn y gweithfeydd haearn a phlwm gerllaw, ers dyddiau'r Rhufeiniaid neu o bosib yn cyfeirio at y clirio tir a ddigwyddodd yn yr Oesoedd Canol er mwyn cyrraedd y mwynau.

Ceir yma nifer o strydoedd gydag enwau diddorol iddynt, gan gynnwys: Stryd Pen-y-Gelli, Heol y Fynwent, Ffordd Talwrn, Allt Tabor, Llys Rehoboth, Ffordd Smelt, Ffordd y Cynulliad, Lôn y Gegin, Pen y Palmant a Hen Ffordd y Mwynglawdd. Ceir hefyd Heol Caradog, Heol Offa sydd yn agos iawn at Glawdd Offa.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwch post aur yn nodi bod Tom James wedi ennill medal aur yn Llundain 2012

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Coedpoeth (pob oed) (4,702)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Coedpoeth) (825)
  
18.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Coedpoeth) (3612)
  
76.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Coedpoeth) (692)
  
34.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Dictionary of Place-names of Wales, tuda 92-93; Gwasg Gomer; 2007.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]