Clawdd Offa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Clawdd Offa
De Offa Dyke.JPG
Math gwrthglawdd, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys, Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.344°N 3.049°W Edit this on Wikidata

Clawdd a ffos sy'n rhedeg yn gyfochrog i'r ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr yw Clawdd Offa. Mae'n ymestyn o aber Afon Dyfrdwy yn y gogledd i aber Afon Hafren yn y de am 150 milltir; dyma oedd y clawdd hwyaf neu hiraf a wnaed gan ddyn yng ngorllewin Ewrop yn yr Oesoedd Canol.[1]

Mae'n debygol yr adeiladwyd ef yn ystod teyrnasiad Offa, Brenin Mercia yn yr wythfed ganrif. Yr adeg honno roedd y clawdd yn dynodi'r ffin rhwng teyrnas Powys a Mersia a hefyd, efallai, yn amddiffyn Mersia rhag ymosodiadau gan y Cymry. Nid oes sicrwydd mai Offa a gododd y clawdd; mae'n bosib fod rhan ohono yn gynharach.

Mae Clawdd Offa ar restrau Cadw ac English Heritage ac mae llwybr cyhoeddus pellter hir ar hyd y clawdd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cyril Fox, Offa's Dyke: a Field Survey of the Western Frontier Works of Mercia in the Seventh and Eighth Centuries AD, (Llundain, 1955)
  • Margaret Gelling (gol.), Offa's Dyke Reviewed (Rhydychen, 1983)
  • David Hill a Margaret Worthington, Offa's Dyke: History and Guide, (Stroud, 2003)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]