English Heritage
| Enghraifft o: | sefydliad elusennol, cyhoeddwr, cwmni preifat sy'n gyfyngedig drwy warant |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1 Ebrill 2015 |
| Prif weithredwr | Kate Mavor |
| Gweithwyr | 1,264, 2,507, 2,548 |
| Ffurf gyfreithiol | cwmni preifat sy'n gyfyngedig drwy warant |
| Pencadlys | Swindon |
| Enw brodorol | English Heritage |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://www.english-heritage.org.uk/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0pc79 |
| Quora | English-heritage-1 |
Elusen sy'n rheoli dros 400 o henebion, adeiladau a lleoedd hanesyddol yn Lloegr yw English Heritage. Mae'r rhain yn cynnwys safleoedd cynhanesyddol, maes brwydr, cestyll canoloesol, caerau Rhufeinig, safleoedd diwydiannol hanesyddol, adfeilion rhestredig, a phlasdai o bwys pensaernïol. Mae'n cyfateb i Cadw yng Nghymru a Historic Scotland yn yr Alban.
Ffurfiwyd English Heritage yn 1983 fel corff cyhoeddus anadrannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, o'r enw swyddogol "Historic Buildings and Monuments Commission for England". Fe'i crëwyd i gyfuno rolau sawl corff presennol a oedd yn gyfrifol am ddiogelu treftadaeth. Ym 1999, unodd y sefydliad â'r Royal Commission on the Historical Monuments of England a'r National Monuments Record.
Ar 1 Ebrill 2015, rhannwyd English Heritage yn ddwy ran: Historic England, a etifeddodd swyddogaethau rheoleiddio, statudol a diogelu'r hen sefydliad, a'r English Heritage Trust, busnes ac elusen a fyddai'n gweithredu'r eiddo hanesyddol, ac a fabwysadodd enw a logo gweithredu English Heritage. Rhoddodd y Llywodraeth grant o £80 miliwn i'r elusen newydd i'w sefydlu fel ymddiriedolaeth annibynnol, er bod yr eiddo hanesyddol yn parhau i fod ym mherchnogaeth y wladwriaeth.