Mercia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Mersia)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mercia
Mathgwlad ar un adeg, gwladwriaeth ddibynnol Edit this on Wikidata
PrifddinasTamworth Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 527 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hen Saesneg, Lladin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Saith Deyrnas Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6°N 1.6°W Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
brenin Mersia Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/Enwadpaganiaeth Eingl-Sacsonaidd, Anglo-Saxon Christianity Edit this on Wikidata
ArianAnglo-Saxon pound Edit this on Wikidata

Roedd Mercia (neu Mersia; Eingl-Sacsoneg: Mierce, "pobl y gororau"), yn un o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, gyda'i chalon o gwmpas dyffryn Afon Trent.

Roedd Mercia'n ffinio â nifer o deyrnasoedd Cymru, yn enwedig Powys, a bu llawer o ymladd rhyngddynt, ond hefyd ambell dro gynghrair. Y brenin cyntaf y gwyddir amdano oedd Creoda, a ddaeth i rym tua 585. Dilynwyd ef gan ei fab, Pybba, yn 593. Dilynwyd ef gan Cearl yn 606, yna daeth Penda yn frenin. Gwnaeth Penda gynghrair gyda nifer o'r brenhinoedd Cymreig i ymgyrchu yn erbyn Northumbria, yn enwedig Cadwallon ap Cadfan, brenin Gwynedd.

Lladdwyd Penda gan y Northunbriaid ym Mrwydr Winwaed yn 655, ac am gyfnod gwanychwyd Mercia yn fawr. Yn ddiweddarach, tua dechrau'r 8g, cryfhaodd y deyrnas eto, a chipiwyd darn sylweddol o ddwyrain Powys, yn cynnwys y brifddinas, Pengwern. Daeth Æthelbald yn frenin yn 716, ac wedi iddo ef farw bu rhyfel am yr orsedd a enillwyd gan Offa. Yn ddiweddarach edwinodd grym Mercia, cipiwyd rhan ddwyreiniol y deyrnas gan y Daniaid a thyfodd Wessex i fod y mwyaf grymus o deyrnasoedd Lloegr.

Terynas Mercia, yn dangos y deyrnas wreiddiol yn y 6ed ganrif mewn gwyrdd tywyll, a maint eithaf y deyrnas rhwng y 7fed a'r 9fed ganrif mewn gwyrdd golau

Brenhinoedd a rheolwyr Mercia[golygu | golygu cod y dudalen]