Cadwallon ap Cadfan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cadwallon ap Cadfan
History of the Kings (f.99.v) Cadwallon fab Cadfan.jpg
Ganwyd 591 Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw 634 Edit this on Wikidata (43 oed)
Brwydr Hexham Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth brenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Tad Cadfan ap Iago Edit this on Wikidata
Plant Cadwaladr Edit this on Wikidata
Llinach Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata

Roedd Cadwallon ap Cadfan (bu farw 633) yn frenin Gwynedd o tua 625 hyd ei farw.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosododd Edwin o Deira (Northumbria heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag Ynys Môn gan orfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629. Yn ôl Sieffre o Fynwy yr oedd Edwin flynyddoedd ynghynt wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r Trioedd Cymreig yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".

Daeth Cadwallon i gytundeb â Penda, brenin Mercia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meicen (neu Meigen: "Heathfield" yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn 632.[1] Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.

Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef ym Mrwydr Hexham yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.

Olynwyd Cadwallon gan ei fab, Cadwaladr ('Cadwaladr Fendigaid').

Moliant Cadwallon ac Afan Ferddig[golygu | golygu cod y dudalen]

Credir fod y gerdd Moliant Cadwallon yn perthyn i gyfnod Cadwallon ei hun. Mae'n bosibl mai Afan Ferddig a'i cyfansoddodd, er nad oes modd profi hynny. Yn ôl y gerdd, ymestynnai awdurdod Cadwallon o Fôn i Fynwy (Porth Sgiwed), a chyfeirir ato yn ymosod ar diriogaeth Elfed.

Ceir cyfeiriad at Afan Ferddig mewn un o'r Trioedd: "Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan,"[2] sy'n awgrymu mai ef oedd bardd llys Cadwallon.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
  • R. Geraint Gruffydd (gol.), 'Canu Cadwallon ap Cadfan', yn Astudiaethau ar yr Hengerdd (gol. Rachel Bromwich ac R. Brinley Jones, Gwasg Prifysgol Cymru, 1978), tt. 25-43.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Hanes Cymru gan John Davies, Llyfrau Penguin, 1990; tudalen 62.
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1978).