Clawdd Wat

Oddi ar Wicipedia
Clawdd Wat
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9867°N 3.0286°W Edit this on Wikidata
Map

Clawdd a ffos sy'n rhedeg yn gyfochrog a'r ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr yw Clawdd Wat, mae hefyd yn rhedeg yn gyfochrog a Chlawdd Offa, er ei fod cryn dipyn yn llai. Tua 40 milltir yw ei hyd: o Abaty Dinas Basing ar lan yr Afon Ddyfrdwy yn y gogledd, heibio Croesoswallt ac i Maesbury yn Swydd Amwythig, sef diwedd ei ran ddeheuol. Ar adegau mae'n cydredeg o fewn ychydig fetrau i Glawdd Offa.[1]

Dyddio[golygu | golygu cod]

Darn arian yn perthyn i gyfnod Coenwulf, brenin Mersia

Er y dyddiwyd rhan wedi'i losgi ohono gyda dulliau dyddio carbon, mae cryn ddadlau ai dyma'r adeg y codwyd y clawdd, neu a ydyw'n perthyn i gyfnod diweddarach.[2] Yn 2006 cafwyd cloddfa archaeolegol a chredir bellach i'r clawdd gael ei gloddio rhwng 792-852. Oherwydd ein bod yn gwybod ychydig am hanes y cyfnod hwn, mae'n bur debyg y gallem ddyddio'r clawdd i'r 820au pan oedd Coenwulf yn ymladd yn yr ardal yma yn erbyn y Cymry.[3]

Clawdd Wat - ble mae'r gwrych neu sietyn modern yn tyfu, gyda gwaith sment Padeswood Hall ar y dde. Cymerwyd y llun o Ben-y-Ffordd[4]
Y clawdd ychydig i'r gorllewin o Laneurgain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Keith Nurse (2001). "Wat's In A Name?". Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2012.
  2. Keith J. Matthews (2000?). "Dating Wat's Dyke". Check date values in: |year= (help)
  3. "Wat's Dyke Dated: Was it Coenwulf's Dyke?" British Archaeology, Tach./Rhagf. 2007
  4. Streetmap

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]