Croesoswallt

Oddi ar Wicipedia
Croesoswallt
Mathtref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Amwythig
Poblogaeth15,613 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.8598°N 3.0538°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ292293 Edit this on Wikidata
Cod postSY10, SY11 Edit this on Wikidata
Map

Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Croesoswallt (Saesneg: Oswestry).[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 17,105.[2]

Bu'n dref Gymreig ers canrifoedd, yn wir dywed Gwefan Twristiaeth ardal Amwythig a Chroesoswallt: "Today the influence of Wales is still felt and you'll hear a blend of languages as you browse around." Arferid cyhoeddi papur wythnosol Y Cymro yno tan yn ddiweddar.

Lleolir Ysgol Croesoswallt yn y dref.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd Croesoswallt mewn bodolaeth mor bell yn ôl a 1086, pan gofnodwyd yn Llyfr Domesday i'r siryf Rainald adeiladu castell yng nghantref Mersete. Er bod Croesoswallt yn sefyll i'r dwyrain o Glawdd Offa, daeth nifer o Gymry i fyw yn y dref yn y 11eg a'r 12eg ganrif. Ymwelwyd â'r dref gan Gerallt Gymro ar ei daith trwy Gymru yn 1188. Derbyniodd Croesoswallt ei siarter gyntaf yn 1189-90, yr hon a elwir 'Y Siarter Gwtta' achos ei hyd; cyfeirir ati fel 'Blancminster' yn y ddogfen. Bwriad y ddogfen oedd cryfhau statws Croesoswallt fel tref farchnad.

Roedd Croesoswallt yn debyg i Berwick-upon-Tweed, yn dref ar ffin Lloegr a newidiodd ddwylo ar achlysuron di-ri yn ystod yr Oesoedd Canol. Pan oedd awdurdod y tywysogion Cymreig ar ei anterth, cipiwyd y dref gan y Cymry, ond ar y cyfan, doedden nhw ddim yn medru cadw'r dref am gyfnod hir cyn i'r brenin Seisnig ei ail-gipio. Enghraifft o hyn yw camp Madog ap Maredudd yn 1149, pan gipiodd y dref a dechrau adeiladu castell yno; roedd y dref yn rhan o Bowys tan o leiaf 1157, ond wedyn, pasiwyd y dref i'r arglwydd William Fitzalan gyda bendith Harri II. Cipiodd Llywelyn Fawr, Dafydd ap Gruffudd, ac Owain Glyndŵr y dref yn 1233, 1282, ac (ar fwy nac un achlysur) yn y 1400au cynnar yn eu tro. Fe'i llosgwyd gan Glyndŵr ar gymaint o achlysuron nes i'r dref dderbyn y ffugenw 'Pentrepoeth'.

Daeth Croesoswallt yn rhan o Loegr yn unol â'r Ddeddf Uno ym 1536.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • John Pryce-Jones, Historic Oswestry (Shropshire Libraries, 1982); John Pryce-Jones, Oswestry: Parish, Church and People (Gwasg Llanforda, 2005).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 10 Medi 2020
  2. City Population; adalwyd 12 Ebrill 2021