Wellington, Swydd Amwythig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Wellington
WellingtonShropshire2.JPG
Math tref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Telford a Wrekin
Daearyddiaeth
Sir Swydd Amwythig
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 52.7001°N 2.5157°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04000947 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ651115 Edit this on Wikidata
Cod post TF1 Edit this on Wikidata

Plwyf sifil a rhan o dref newydd Telford yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Wellington.[1] Fe'i lleolir yn awdudod unedol Telford a Wrekin.

Mae'r dref yn dyddio i'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd, ond, gyda datblygaid tref newydd Telford yn y 1960au a'r 1970au, daeth yn rhan o'r dref newydd honno. Mae'r dref wedi cadw ei hen gyfaredd ei hun gyda gorsaf trenau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a llyfrgell Edwardaidd. Cafodd siarter fel tref farchnad ym 1244. Mae'r farchnad leol yno o hyd, yn agos i sgwâr y farchnad yng nghanol y dref. Mae gan y dref orsafoedd trenau a bysiau, ac mae traffordd yr M54 yn gyfagos. Poblogaeth Wellington yw 20,430 (Cyfrifiad 2001).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. British Place Names; adalwyd 27 Medi 2020
Salop arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato