Wilfred Owen
Wilfred Owen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
18 Mawrth 1893 ![]() Croesoswallt ![]() |
Bu farw |
4 Tachwedd 1918 ![]() Ors ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
ysgrifennwr, bardd ![]() |
Arddull |
barddoniaeth ![]() |
Prif ddylanwad |
Siegfried Sassoon, John Keats, Horas, William Wordsworth ![]() |
Gwobr/au |
Croes filwrol ![]() |
Bardd yn yr iaith Saesneg oedd Wilfred Edward Salter Owen, MC (18 Mawrth 1893 – 4 Tachwedd 1918).
Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd ei eni ym Mhlas Wilmot, Weston Lane, ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, yn fab hynaf i Thomas a Harriet Susan (née Shaw) a chawsant dri pllentyn arall: Harold, Colin, a Mary Millard Owen.
Roedd ei ewythr Edward Shaw Owen wedi chwarae pêl-droed dros Gymru. Yn ôl yr hanesydd Hafina Clwyd yn ei chyfrol 'Rhywbeth Bob Dydd', arferai Wilfred fynd ar ei wyliau i fferm Glan Clwyd, Rhewl ger Rhuthun. Dyma rai o gerddi'r bardd: "Dulce et Decorum Est", "Insensibility", "Anthem for Doomed Youth", "Futility" a "Strange Meeting".
Athro yn Bordeaux, Ffrainc, oedd Owen ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf (1912 ymlaen).
Un o gyfeillion y beirdd Siegfried Sassoon a Robert Graves oedd ef.
Bu Owen farw ym Mrwydr y Sambre un wythnos cyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gofal[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ôl Hafina Clwyd, Edward Shaw Owen oedd tad Wilfred_Owen, a dywed iddo chwarae i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.[1]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rhywbeth Bob Dydd. Hafina Clwyd. Rhagfyr 2008.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Rhywbeth Bob Dydd; tud 117; Gwasg Carereg Gwalch (2008)