Hafina Clwyd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hafina Clwyd
Geni Mair Hafina Clwyd Jones
1 Gorffennaf 1936(1936-07-01)
Gwyddelwern
Marw 14 Mawrth 2011(2011-03-14) (74 oed)
(8 mlynedd yn ôl)
Galwedigaeth Awdur
Cenedligrwydd Cymro
Addysg Coleg y Normal, Bangor
Math o lên beirniadaeth lenyddol, ysgrifau
Gwaith nodedig Buwch ar y Lein (1987)
Priod Andy Hawks (1965)
Cliff Coppack (1971)

Awdur toreithiog, ffeminydd a chasglwr achau oedd Hafina Clwyd (1 Gorffennaf 193614 Mawrth 2011) a sgwennodd yn helaeth i bapurau newydd, cylchgronau a chyhoeddiadau Cymraeg a Chymreig. Roedd ganddi golofn wythnosol yn y Western Mail a dilynodd Emyr Preis fel golygydd Y Faner yn 1986.[1] Roedd yn ddyneiddiaethydd brwd, wedi iddi droi ei chefn ar grefydd; bu'n Faer Rhuthun rhwng 2008-9 ar ran y Rhyddfrydwyr.

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Mair Hafina Clwyd Jones yng Ngwyddelwern, ger Rhuthun, Sir Ddinbych a chafodd ei magu ar fferm y teulu (Cefnmaenllwyd) yn Llandyrnog ychydig filltiroedd i ffwrdd. Hi oedd yr hynaf o bedwar o blant. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gwyddelwern, Ysgol Ramadeg y Merched y Bala ac yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun. Hyfforddwyd hi'n athrawes yng Ngholeg y Normal, Bangor.[2] Ym 1957, yn 21 oed, symudodd i Lundain lle bu'n bennaeth adran mewn Ysgol Gyfun.[1]

Llundain[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Hafina'n ffeminydd frwd, ac adlewyrchid hyn drwy ei gwaith. Roedd hefyd, am gyfnod, yn byw bywyd eitha bohemaidd, gyda gwin a chymdeithasu gyda gwleidyddion yr oes yn chwarae rhan bwysig yn ei bywyd. Cefnogai'r ymgyrch dros gyfreithloni erthyliad, a bu'n lladmerydd huawdl ac uchel ar faterion y dydd, drwy ei hoes. Am gyfnod bu'n ysgrifennydd i Aelodau Seneddol Plaid Cymru er mai Rhyddfrydwraig ydoedd am y rhan fwyaf o'i hoes. Priododd â phatholegydd o'r enw Andy Hawks ym 1965, ond gadawodd ef a phriodi gŵr gweddw, Cliff Coppack, gyda dau o blant yn 1971.

Dyffryn Clwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ddeg mlynedd yn ddiweddarach dychwelodd i Ddyffryn Clwyd gan ymddeol i ystâd Erw Goch, Rhuthun lle sgwennodd y rhan fwyaf o'i llyfrau, gyda Cliff yn gwneud y gwaith tŷ.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddodd 11 o gyfrolau. Ysgrifau ysgafn a geir yn Shwrwd (1967), Clychau yn y Glaw (1973), Defaid yn Chwerthin (1980) a Phobol sy'n Cyfri (2001). Cyfrolau yn seiliedig ar ei dyddiaduron Rhuthun yw Buwch ar y Lein (1987), a Prynu Lein Ddillad (2009). Sgwennodd hunangofiant, hefyd: Merch Morfydd (1987) a chyfres o ethyglau: Perfedd Hen Nain Llewelyn (1985) a Clust y Wenci (1991). Cyfrol yn tynnu sylw at ddigwyddiadau hanesyddol ac arwyddocaol dyddiol yw Rhywbeth Bob Dydd (2008). Cyhoeddodd lyfryn Cwis a Phos (1984). Llwyddodd yn ei hwythnosau olaf o dan amgylchiadau anodd i gyflwyno ei chyfrol ddyddiadurol Mynd i'r Gwrych (a gyhoeddwyd yn 2011). Golygodd Welsh Family History: A Guide to Research.

Er iddi fod yn agos at ennill Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun, 1986, methiant fu ei hymdrech, ond cafodd feirniadu'r gystadleuaeth ddwywaith: yn 1997 a 2002 a bu'n feirniad Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Yn y 1980au astudiodd ar gyfer gradd BA Cymraeg, fin nos, ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ym 1960 daeth yn aelod o'r Orsedd ac ym 1992 derbyniodd y Wisg Wen yn gydnabyddiaeth am ei chyfraniad enfawr i'r diwylliant Cymraeg. Gwnaed hi'n Gymrawd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor yn 2005. Roedd hefyd yn aelod o'r Academi Gymreig.

Ysgrifennai'n sydyn, yn hwyliog, yn syml ac yn ddi-flewyn-ar-dafod ac erbyn diwedd ei hoes daeth yn awdur boblogaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]